Fe lwyddodd merch 13 oed i achub dwy o’i chwiorydd o dân mewn tŷ ym Mae Penrhyn ger Llandudno.
Ond mae tri o oedolion yn yr ysbyty mewn cyflwr difrifol – dwy ddynes 38 a 32 oed a dyn sy’n 38.
Fe gafodd y chwaer hyna’ ei chanmol am lwyddo i alw’r gwasanaethau brys a dilyn cyfarwyddiadau tros y ffôn i dorri ffenest er mwyn achub ei chwiorydd wyth a 18 mis oed.
Roedd pum injan dân o’r Rhyl, Llandudno a Bae Colwyn wedi mynd i’r safle yn Trafford Park, Bae Penrhyn, ac mae ymchwiliad yn cael ei gynnal i geisio pennu achos y tân. Mwg oedd y broblem fwya’.
Achub ei chwiorydd
Yn ôl rheolwr y Gwasanaeth Tân lleol, roedd cyflymder meddwl y ferch 13 oed wedi achub ei chwiorydd a helpu i achub yr oedolion.
“Fe wnaeth ei gweithredoedd helpu sicrhau ei bod hi a’i chwiorydd yn dianc o’r tŷ yn ddiogel,” meddai Gary Brandrick.
“Fe wnaeth ein hysbysu am y tan ac fe ddywedodd hefyd fod tri oedolyn mewn adeilad i fyny grisiau.”