Mae deg o bobol wedi cael eu lladd gan y llifogydd yn Awstralia wrth i filoedd o gartrefi fynd o dan y dŵr.

Fe gafodd y fyddin eu defnyddio i gario bwyd i mewn i ddinas Rockhampton yn Queensland wrth i’r llifogydd effeithio ar ardal sydd cymaint â Ffrainc a’r Almaen gyda’i gilydd.

Fe gafodd y dyn diweddara’ ei ladd wrth geisio gyrru trwy’r llifogydd ac mae awdurdodau’r dalaith wedi rhybuddio pobol rhag gwneud hynny.

Fe addawodd Prif Weinidog Awstralia, y Gymraes Julia Gillard, y byddai dioddefwyr yn cael arian i’w helpu i ddygymod â’r trafferthion.

Y disgwyl yw mai dydd Mercher fydd uchafbwynt y llifogydd ac, yn ôl rhai adroddiadau papur newydd, y peryg nesa’ yw nadroedd gwenwynig a fydd wedi cael eu cario i’r ddinas lle mae 75,000 o bobol yn byw.

Yn ôl yr adroddiadau hynny, mae swyddogion iechyd yn anfon rhagor o foddion i drin brathiadau.

Llun: Julia Gillard, yn addo iawndal