Fe fydd y cynnydd mewn Treth ar Werth sy’n digwydd am hanner nos heddiw yn costio bron £400 y flwyddyn i deuluoedd nodweddiadol.
Dyna fydd honiad yr arweinydd Llafur, Ed Miliband, wrth iddo ymgyrchu yn isetholiad Dwyrain Oldham a Saddleworth.
Fe fydd yn defnyddio ffigurau’r Democratiaid Rhyddfrydol cyn yr etholiad i ddweud y bydd teuluoedd yn talu tua £7.50 yr wythnos yn rhagor o ganlyniad i’r cynnydd.
Yn ôl dyfyniadau sydd wedi eu gollwng ymlaen llaw, mae Ed Miliband yn dadlau fod y cynnydd yn arwydd arall bod y Llywodraeth yn mynd yn “rhy bell yn rhy gyflym” ac y bydd y cynnydd yn golygu colli swyddi a llai o gynnydd economaidd.
Fe fydd y dreth yn codi o 17.5% i 20% am hanner nos gan effeithio ar amrywiaeth eang o nwyddau, o ddillad i nwyddau trydanol.
Yn ôl y Ceidwadwyr, fe fyddai cadw Treth ar Werth ar yr un lefel yn golygu bod rhaid codi trethi eraill.
Llun: Ed Miliband (CCA 2.0)