Mae ymwelwyr wedi eu gwahardd rhag mynd i holl wardiau yn Ysbyty Treforys yn Abertawe, oherwydd achos o norovirus.

Does dim cleifion newydd chwaith yn cael mynd i mewn i saith ward sydd wedi eu heffeithio gan y salwch sy’n achosi dolur rhydd a chwydu.

Yn ôl Bwrdd Iechyd Abertawe a Bro Morgannwg, mae’r camau’n angenrheidiol er mwyn ceisio torri gafael yr haint sy’n cynyddu pob gaeaf. Mae cau ysbyty cyfan yn anarferol.

Yr unig eithriadau o ran ymweld yw rhieni sy’n mynd i weld eu plant, perthnasau sy’n mynd i weld pobol ar eu gwely angau a rhai achosion eithriadol eraill.

Roedd ymwelwyr wedi cael eu hatal o’r saith ward ers cyn y Nadolig ond yn awr mae’r Bwrdd wedi penderfynu bod rhaid gweithredu’n fwy llym.

Sylwadau’r Bwrdd Iechyd

“Mae Norovirus i’w gael trwy’r flwyddyn, ond mae achosion yn cynyddu yn ystod y gaeaf,” meddai’r Cyfarwyddwr Nyrsio’r Bwrdd, Victoria Franklin.

“Y gaeaf yma, fe ddechreuodd Norovirus gynyddu’n gynt nag arfer ac r’yn ni eisoes wedi gorfod cau rhai wardiau.

“Mae ein hysbytai dan bwysau mawr hefyd oherwydd y tywydd anarferol o oer sydd wedi cynyddu nifer y cleifion brys. Mae cau wardiau oherwydd Norovirus yn weithred angenrheidiol ond mae’n golygu bod gwelyau’n cael eu colli tra bod ward ynghau.”

Llun: Ysbyty Treforys