Fe lwyddodd y Cymro, Mark Webster, i achosi sioc fawr wrth guro’r chwaraewr dartiau enwoca’ yn rownd wyth ola’ Pencampwriaeth y Byd.
Ar ôl colli o 6-0 i Phil Taylor y llynedd, fe lwyddodd y dyn 27 oed o Ddinbych, i dalu’r pwyth ac ennill o 5-2. Hynny yn erbyn dyn sydd wedi ennill y teitl 15 gwaith ac wedi bod yn y rownd derfynol bob blwyddyn ond un ers 1994.
‘Y fuddugoliaeth fwya’
Yn ôl Webster, hon oedd buddugoliaeth fwya’i fywyd, tra bod Phil Taylor ei hun yn cydnabod bod y Cymro’n haeddu ennill.
“Ef oedd y chwaraewr gorau heb rithyn o amheuaeth,” meddai’r cyn-bencampwr a ddaeth yn ail yng Nghystadleuaeth Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC y llynedd.
“Roedd y nifer o droeon y llwyddodd i daro’r dwbl gyda’i ddart ola’n ddigon i chwalu dyn; roedd ei ddewrder yn wych.”
Dechrau da
Dechrau da oedd yr allwedd i Webster ac fe aeth 3-1 ac wedyn 4-2 ar y blaen. Yn y set ola’, roedd hi’n ymddangos fod Taylor am ddod yn ôl gan fynd ar y blaen o 2-0, ond fe lwyddodd y Cymro i’w ddal a’i basio i ennill honno 3-2 wrth i Taylor fethu nifer o gyfleoedd hawdd.
Fe fydd Webster yn chwarae yn erbyn Adrian Lewis o Stoke yn y rownd gynderfynol gan obeithio cyrraedd y ffeinal ddydd Llun.