Scarlets 21 Dreigiau 15
Roedd y Scarlets yn falch o fuddugoliaeth fain ar ôl eu cweir yn erbyn y Gweilch ychydig ddyddiau ynghynt.
Ond, er eu bod nhw wedi rheoli’r rhan fwya’ o’r gêm yng Nghynghrair Magners, cael a chael oedd hi ar y diwedd a’r trobwynt oedd methiant y Dreigiau i sgorio o gic gosb hawdd tua diwedd yr ail hanner.
Roedd y sgôr ar yr egwyl yn rhyfeddach fyth, gyda’r Dreigiau’n arwain o 10-3 ar ôl i’r Scarlets gael tri chwarter y meddiant.
Y gêm
Y Dreigiau oedd wedi mynd ar y blaen trwy gic gan y maswr Jason Tovey ar ôl i’r Scarlets gam sefyll adeg cic yn ddwfn yn eu hanner eu hunain.
Er bod maswr y Scarlets, Rhys Priestland, wedi dod â nhw’n gyfartal a chroesi’r 100 pwynt y tymor hwn yng Nghynghrair Magners, fe fethodd ddwy gic gymharol hawdd arall.
Ar ddiwedd yr hanner, fe dalodd y Scarlets y pris am fethu â sgorio. Gyda’r Dreigiau ar 14 dyn oherwydd carden felen i’r asgellwr Aled Brew, fe dorron nhw’n rhydd a’r mewnwr Wayne Evans oedd y cynta’ i gyrraedd cic ymlaen a sgorio dan y pyst. Fe drosodd Jason Tovey.
Fe ddechreuodd y Scarlets yr ail hanner yn benderfynol ac, o fewn munud, roedden nhw’n gyfartal gyda’r canolwr Gareth Maule yn sgorio cais yn erbyn ei hen glwb. Gyda Priestland yn trosi ac wedyn yn cael cic gosb, fe aethon nhw ar y blaen o 13-10.
Y trobwynt
Felly yr arhosodd hi, er i’r Scarlets ddal i bwyso am ychydig, cyn i’r Dreigiau gael ugain munud cryf. Fe arweiniodd hynny at y trobwynt, a Jason Tovey’n methu cic hawdd o flaen y pyst.
Fe fanteisiodd y Scarlets a mynd i ben arall y cae i sgorio trwy gais gan Rhys Priestland gan danio pum munud ola’ cyffrous.
Fe gafodd Aled Brew gais i’r Dreigiau i’w gwneud hi’n 18-15 cyn i Priestland setlo pethau gyda chic gosb hir.
Dan Lydiate, blaenasgellwr y Dreigiau, oedd seren y gêm tra oedd rhai o olwyr y Scarlets, gan gynnwys y canolwr Jon Davies, Priestland a Morgan Stoddart wedi dangos sgiliau rhedeg cry’.
Llun: Rhys Priestland – 16 o bwyntiau