Abertawe 1 Reading 0
Fe roddodd rheolwr Abertawe glod arbennig i’w chwaraewr canol cae, Darren Pratley, ar ôl iddo sgorio’r gôl i ennill y gêm yn erbyn Reading ddoe.
Roedd y fuddugoliaeth yn Stadiwm Liberty’n ddigon i godi i’r ail le yn y Bencampwriaeth ac uwchben Caerdydd.
Er ei bod yn edrych yn hawdd, roedd y gôl ar ôl 65 munud wedi dangos techneg dda iawn, meddai’r rheolwr Brendan Rodgers ac fe ddywedodd bod Pratley’n “chwaraewr proffesiynol delfrydol”.
Roedd y chwaraewr 25 oed wedi cael ei feirniadu’n hallt gan gefnogwyr Abertawe’n ddiweddar ar ôl iddo wrthod arwyddo cytundeb newydd gyda’r clwb.
“Fo ydi’r pro perffaith ac mae’r chwaraewyr yma wrth ei fodd gydag o,” meddai Rodgers. “Dw i’n falch iawn trosto fo achos mae wedi bod dan y lach dipyn yn ddiweddar.”
Llun: Darren Pratley