Fe fydd Cymru’n cael un o’r Nadoligau cynhesaf ers bron ganrif, yn ôl y proffwydi tywydd.

Y disgwyl yw y gallai’r tymheredd godi mor uchel â 14 gradd gyda glaw mân yn hytrach nag eira.

Mae’r un patrwm yn debygol ar draws y rhan fwya’ o wledydd Prydain – y Nadolig cynhesa’ ers 91 o flynyddoedd.

Ddwywaith yn y cyfnod modern, mae’r tymheredd dydd Nadolig wedi codi cyn uched â 15.6 gradd – yn 1896 ac 1920.

Gogledd yr Alban yw’r eithriad mwya’ amlwg eleni, lle mae disgwyl stormydd a gwyntoedd cryfion.