Kate Roberts
Bydd Kate Roberts yn un o’r merched hynod fydd yn cael sylw mewn cyfres newydd ar S4C fydd yn cael ei chyflwyno gan Ffion Hague.

“Y gwir yw bod campau merched wedi’u hesgeuluso yn ein llyfrau hanes,” meddai Ffion. “Ar y cyfan mae haneswyr yn dueddol o ganolbwyntio ar ryfeloedd a brenhinoedd, gan wthio campau merched o’r neilltu.”

Y merched eraill fydd yn cael sylw yn y gyfres Mamwlad yw Megan Lloyd George, Margaret a Gwendoline Davies, Arglwyddes Llanofer, Cranogwen a Laura Ashley.

Mae’r bennod gyntaf yn canolbwyntio ar Megan Lloyd George ac yn cynnwys ffilmiau cartref a wnaethpwyd gan aelodau o’i theulu sydd erioed wedi cael eu dangos yn gyhoeddus o’r blaen.

“Roeddwn i’n meddwl bod y rhan fwyaf o’r deunydd gweledol am hanes y teulu wedi ei archifo erbyn hyn, felly roedd e’n foment gyffrous iawn pan roddwyd y ffilmiau yma i mi i ofalu amdanynt,” meddai Catrin Edwards, cynhyrchydd y rhaglen. Maen nhw bellach yng ngofal Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru.

“Maen nhw’n ffilmiau hynod ddiddorol wedi eu saethu rhwng Ugeiniau a Chwedegau’r ganrif ddiwetha’ – rhai’n dangos Megan yn fenyw ifanc gyda’i thad, ac eraill yn dangos Megan yn ei chanol oed yn ei chartref ym Mrynawelon, Cricieth, gydag aelodau o’i theulu yn cynnwys ei chwaer Lady Olwen Carey Evans a’i nai Bengy. Mae’n archif bersonol ddiddorol a phwysig,” meddai Catrin.

Bydd pennod gyntaf y gyfres i’w gweld nos Sul, 8 Ionawr, ar S4C.