Christian Bale
Fe ddylai Christian Bale fod â chywilydd am geisio ymweld ag ymgyrchydd heddwch yn ystod ymweliad â China, meddai llefarydd ar ran llywodraeth y wlad.

Cafodd yr actor, anwyd yn Sir Benfro, ei ffilmio gan CNN yn ymgodymu â gwarchodwyr y llywodraeth wrth geisio ymweld â’r ymgyrchydd dall Chen Guangcheng.

Dywedodd llefarydd ar ran Weinyddiaeth Dramor y wlad, Liu Weimin, nad oedd y sylw wedi codi cywilydd ar lywodraeth China.

Christian Bale ddylai fod â chywilydd am geisio tynnu’n groes i ddymuniadau’r llywodraeth, meddai.

Roedd yr actor wedi ei wahodd gan y cyfarwyddwr Zhang Yimoui i seremoni agoriadol y ffilm The Flowers Of War.

“Ni chafodd ei wahodd er mwyn creu newyddion a ffilmio mew pentrefi diarffordd,” meddai’r llefarydd.

Dywedodd Christian Bale mai ei fwriad oedd ysgwyd llaw Chen Guangcheng a dweud ei fod yn “ysbrydoliaeth” iddo.

Cafodd Chen Guangcheng ei garcharu ar ôl cofnodi erthyliadau hwyr ac achosion arall o gam-drin gan yr awdurdodau oedd yn ceisio atal twf poblogaeth ei gymuned wledig.