Fe allai rygbi yng Nghymru golli miliynau o bunnoedd y flwyddyn os ydy’r BBC yn bwrw mlaen gyda chynlluniau i newid rhaglenni i Gymru ar BBC2.

Mae Undeb Rygbi Cymru yn derbyn £20 miliwn dros bedair blynedd gan BBC Cymru ac S4C am ddarlledu gemau rygbi RaboDirect y Gynghrair Celtaidd. Ond fe allai’r arian gael ei golli oherwydd y newid i ddarlledu rhaglenni yn Glirlun (HD).

Mae’r Sefydliad Materion Cymreig wedi cyflwyno tystiolaeth i Ymddiriedolaeth y BBC ynglyn â’u cynlluniau i arbed arian y gorfforaeth.

Un awgrym sydd wedi corddi’r dyfroedd gyda Undeb Rygbi Cymru yw’r bygythiad i ddarlledu rhaglenni BBC Cymru Wales ar sianel BBC2.

O dan y cynllun yma fe fyddai’r ddwy sianel yn cael eu gwneud yn Glirlun (HD) sef BBC1 a BBC2. Ond dim ond BBC1 fydd yn darlledu rhaglennui penodol i Gymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, tra byddai BBC2 yn darlledu un gwasanaeth ganolog i’r Deyrnas Unedig.

Nid yw’r BBC wedi datgelu a fydden nhw yn parhau i ddarlledu yn y modd arferol ar BBC2 wedi 2015.

Un canlyniad o golli’r dewis i ddarlledu rhaglenni BBC Cymru Wales fyddai colli darlledu rygbi yng Nghymru ar y sianel,  a all olygu ergyd ariannol i Undeb Rygbi Cymru.

Gyda dros 40% o gynnyrch BBC Wales yn cael ei ddarlledu ar BBC2 mi fyddai hyn yn golygu newid syfrdanol yn strwythur darlledu’r adran.