Dylai’r Eisteddfod Genedlaethol ddychwelyd i safle parhaol y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd bob yn ail flwyddyn er mwyn arbed arian, yn ol arbenigwr cyllid.
Mae’r Athro Gerald Holtham yn dweud y dylai’r Eisteddfod Genedlaethol fod yn defnyddio maes y Sioe Fawr fel safle parhaol i gynnal yr wyl, a theithio i’r de neu i’r gogledd yn y blynyddoedd rhwng cynnal yr Eisteddfod yn Llanelwedd.
Yn ol Gerald Holtham, academydd a Chadeirydd y Comisiwn ar Gyllido a Chasglu Arian i Gymru, a wnaeth ei sylwadau mewn erthygl i’r Sefydliad Materion Cymreig, byddai cael canolfan barhaol i’w defnyddio bob yn ail flwyddyn yn helpu’r Eisteddfod i gynnal ei hun yn ariannol, heb y costau o orfod sefydlu safle newydd bob tro.
“Yr ateb amlwg yw newid y traddodiad o symud o gwmpas i leoliad newydd bob blwyddyn,” meddai.
“Gallai’r Eisteddfod gael cartref parhaol i’w ddefnyddio bob yn ail flwyddyn, a symud o gwmpas yn y blynyddoedd eraill. Gan fod yr eisteddfod yn teithio rhwng gogledd a de, dylai’r cartref parhaol fod yng Nghanolbarth Cymru, ac mae ’na le amlwg. Gadewch i’r Eisteddfod rannu maes y Sioe Fawr yn Llanelwedd.”
Ond wfftio’r argymhelliad y mae Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Elfed Roberts.
“Dydi’r syniad ddim yn un ymarferol,” meddai wrth Golwg 360 y bore ’ma.
Cafodd yr Eisteddfod Genedlaethol ei chynnal ar faes y Sioe Frenhinol yn ol yn 1993, ond mae Elfed Roberts yn dweud fod y gwaith o drefnu’r Eisteddfod yn y bwlch byr iawn o amser rhwng cynnal y Sioe Fawr, ddiwedd Gorffennaf, a chynnal yr Eisteddfod ddechrau Awst, wedi ei gwneud hi’n anodd iawn.
“Mae ’na gyfleusterau anhygoel o dda yno i sioe amaethyddol – ond mae gwahaniaeth mawr rhwng anghenion Eisteddfod a sioe amaethyddol,” meddai.
“Dwi yn falch fod dyn o galibre yr Athro Gerald Holtham yn gweld gwerth trafod pwnc fel hyn,” meddai Elfed Roberts, “ond dydi’r pwyntiau sy’n cael eu codi ddim yn newydd. Rydan ni’n cael y drafodaeth hyn o hyd. Ond does dim atebion hawdd.
“Nid diffyg ymdrech gan yr Eisteddfod yw hyn – dydi’r syniad jyst ddim yn ymarferol,” meddai Elfed Roberts.
Mynnodd y Prif Weithredwr fod yr Eisteddfod yn edrych o hyd am atebion i arbed arian i’r Wyl, a’u bod wedi gwneud rhai newidiadau ers Eisteddfod Wrecsam yn gynharach eleni, lle wnaed colledion o £90,000 – a hynny’n dilyn colledion o £47,000 yn eisteddfod Blaenau Gwent y flwyddyn gynt.
Dywedodd fod yr Eisteddfod eisoes wedi bod yn ystyried ymweld a safleoedd sefydledig fel safle Sioe Mon ym Mona, a safle Sioe’r Tair Sir yn Sir Gaerfyrddin, ond fod amseru’r Eisteddfod yn cyd-daro a threfniadau nifer fawr o wyliau amaethyddol yn ystod yr haf.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod sefydlu un safle parhaol i’r Eisteddfod ddim yn opsiwn ar hyn o bryd chwaith, gan nad oedd gan yr Eisteddfod y cyllid i brynu safle nag i’w ddatblygu a’i gynnal.
“Petai ganddon ni’r arian, mi fyddwn ni’n ystyried hynny, yn bendant,” meddai.
Ond dywedodd Elfed Roberts mai prif amcan yr Eisteddfod ar hyn o bryd oedd ceisio torri lawr ar y colledion y llynedd. Fe fydd yr Eisteddfod y flwyddyn nesaf yn adlewyrchu rhai o’r arbedion hynny, gan gynnwys cael gwared ar adeilad Maes C, gan symud y digwyddiadau i faes yr Eisteddfod ei hun, a gigs Maes B yn cael eu cynnal ar lwyfan awyr agored yn hytrach na phabell.
Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal ym Mro Morgannwg yn 2012, rhwng 4 a 11 o Awst.