Mae cynyddu treth y cyngor i berchnogion ail gartrefi a thai gwyliau yn ddibynnol ar benderfyniadau gan Lywodraeth Cymru, yn ôl Cyngor Sir Powys.
Yng nghyfarfod y pwyllgor ariannol heddiw (dydd Iau, Ionawr 20), fe wnaeth cynghorwyr grybwyll y cynlluniau ar gyfer cyllideb y flwyddyn nesaf.
Yn rhan o’r cynlluniau hynny, mae bwriad gan y Cabinet i gynyddu treth y cyngor o 3.9% i bawb.
Daw hyn ar ôl i’r awdurdodau lleol yng Nghaerdydd a Sir Gaerfyrddin gyhoeddi cynlluniau i wneud cynnydd tebyg, er gwaethaf setliad ariannol i gynghorau sir gan Lywodraeth Cymru.
Dim cynnydd i’r premiwm
Er i’r glymblaid Geidwadol-Annibynnol sy’n arwain y Cabinet awgrymu cynyddu treth y cyngor yn gyffredinol, does dim cynllun wedi ei nodi ar gyfer y premiwm ar ail gartrefi.
Fe wnaeth y Cyngor llawn bleidleisio o blaid ei godi i 75% mewn cyfarfod fis Medi y llynedd, a chafodd ymgynghoriad ei gynnal yn hwyr yn y flwyddyn.
Pe bai’n cael ei gymeradwyo, gallai’r cynnydd yn y premiwm weld £350,000 yn ychwanegol yn cael ei gasglu gan yr awdurdod lleol.
Yn ddiweddar, siaradodd Elwyn Vaughan, arweinydd grŵp Plaid Cymru ar y Cyngor, â golwg360 ynglŷn â sefyllfa ail gartrefi Powys ar hyn o bryd.
“Rwy’n cofio 18 mis yn ôl, fe benderfynodd y Cyngor llawn godi treth y cyngor ar gyfer tai haf ac mae tua 1,300 ohonyn nhw wedi’u cofrestru ym Mhowys,” meddai yn y cyfarfod heddiw (dydd Iau, Ionawr 20).
“Cafwyd cyfnod ymgynghori dilynol yn ôl yr angen, ond wela i ddim unrhyw gyfeiriad at y cynnydd hwnnw yn digwydd mewn unrhyw ddogfen.
“Fyddwn i ddim eisiau gweld ein preswylwyr yn cael eu llethu gan gostau uwch yn ystod y cyfnod caled hwn, tra bod pobol sy’n gallu fforddio mwy nag un tŷ yn cael eu hesgusodi.”
Disgwyl canlyniad ymgynghoriad
Dywedodd y Cynghorydd Aled Davies, yr Aelod Cabinet ar gyfer Cyllid, fod cynlluniau wedi dod i ben oherwydd adolygiad ail gartrefi Llywodraeth Cymru.
“Mae’n bwysig fod deddfwriaeth yn ei lle i roi’r gallu i ni,” meddai.
“Byddai risg pe na bai’r ddeddfwriaeth yno fod y sylfaen drethu yn cael ei hansefydlogi ac y byddai ail gartrefi yn disgyn o dan yr adran ardrethi busnes.”
Mae ardrethi busnes yn cael eu gosod gan Lywodraeth Cymru, er eu bod nhw’n cael eu casglu gan awdurdodau lleol.
Yna, mae’r arian yn cael ei roi i’r llywodraeth, sy’n ei ailddyrannu yn rhan o’r setliad ariannol blynyddol i awdurdodau lleol.
Ychwanegodd y Cynghorydd Aled Davies y byddan nhw’n “disgwyl am ganlyniad yr ymgynghoriad” ar ail gartrefi cyn gweithredu ymhellach.
‘Ewyllys y Cyngor ddim yn cael ei roi ar waith’
Wrth ymateb i’r Aelod Cabinet, dywedodd Elwyn Vaughan fod hawl gan awdurdodau lleol i godi’r premiwm i 200%.
“Bydd deddfwriaeth bellach maes o law, ond mae’r pŵer hwnnw yn bod eisoes, dydy ewyllys y Cyngor ddim yn cael ei roi ar waith,” meddai.
Ond dywed Aled Davies y byddai’n “anghywir” gwneud hynny heb gau bylchau allweddol.
Cafodd ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar “drethi lleol ar gyfer ail gartrefi a llety hunanddarpar” ei gynnal rhwng Awst 25 a Thachwedd 17 y llynedd.
Mae’r Llywodraeth yn dweud eu bod nhw bellach yn “adolygu’r ymatebion” ac y byddan nhw’n cyhoeddi canlyniad “maes o law.”