Mae Boris Johnson yn dweud nad yw e “wedi gweld unrhyw dystiolaeth” o flacmêl yn ei blaid, yn dilyn honiadau gan un o’i aelodau seneddol ei hun.

Yn ôl William Wragg – sydd wedi galw ar y Prif Weinidog i ymddiswyddo dros bartïon yn Rhif 10 – mae’r aelodau seneddol sy’n gwrthwynebu’r Prif Weinidog yn wynebu “pwysau a bygythiadau” gan weinidogion i’w hatal rhag cynllwynio yn erbyn Boris Johnson.

Dywed Christian Wakeford, y cyn-Aelod Seneddol Torïaidd a wnaeth groesi’r llawr i Lafur, ei fod e wedi ei fygwth dros gyllid ysgol ar gyfer ysgol.

“Nid wyf wedi gweld unrhyw dystiolaeth [ac] ni chlywais unrhyw dystiolaeth,” meddai Boris Johnson wrth ohebwyr.

Pan gafodd ei holi a fyddai’n ymchwilio i’r adroddiadau, atebodd, “Wrth gwrs.”

“Yr hyn rydw i wedi ffocysu arno yw’r hyn rydym yn ei wneud i ddelio gyda’r flaenoriaeth gyntaf sef Covid,” meddai.

“Rwyf wedi dweud llawer iawn ynghylch y mater hwn.”

Blacmêl

Mae Christian Wakefield, cyn-Aelod Seneddol Torïaidd a groesodd y llawr at y Blaid Lafur, yn dweud ei fod e wedi cael ei fygwth.

“Roeddwn i dan fygythiad na fyddwn i’n cael yr ysgol ar gyfer Radcliffe pe na bawn i’n pleidleisio mewn un ffordd benodol,” meddai.

“Dyma dref sydd heb gael ysgol uwchradd am y rhan orau o ddeng mlynedd, a sut fyddech chi’n teimlo wrth ddal yn ôl ar adfywio tref [yn gyfnewid] am bleidlais?”

Ychwanegodd nad oedd y digwyddiad yn un “cyfforddus”, a’i fod e wedi ei arwain i “ddechrau cwestiynu lle’r oeddwn i ac yn y pen draw, lle ydw i nawr”.

Honiadau

Cafodd honiadau o flacmêl a bygythiadau eu gwneud yn dilyn honiadau a wnaed gan yr aelod seneddol William Wragg mewn pwyllgor seneddol heddiw (dydd Iau, Ionawr 20).

Fe ddywedodd fod staff Rhif 10, ymgynghorwyr a chwipiau’r llywodraeth wedi dweud y byddai straeon fyddai’n codi cywilydd arnyn nhw yn cael eu rhyddhau i’r wasg pe na baen nhw’n cefnogi’r prif weinidog.

Dywedodd hefyd fod Rhif 10 wedi bygwth rhoi llai o arian i’w etholaeth e, ac etholaethau aelodau eraill y meinciau cefn.

Mae William Wragg wedi annog aelodau Ceidwadol y meinciau cefn sy’n wynebu “bygythiadau” gan eu bod nhw’n cefnogi pleidlais o ddiffyg hyder, i fynd at yr heddlu.

Mae’r Cymro Robert Buckland, yr aelod seneddol Ceidwadol a chyn-Arglwydd Ganghellor, yn rhybuddio bod yn rhaid i bobol pwyllo a sicrhau nad ydyn nhw’n croesi’r llinell.

“Rwy’ wir yn gobeithio nad yw’r llinellau hynny wedi eu croesi ond mae rhybudd William Wragg yn amserol ac rwy’n gobeithio’n fawr y caiff ei sylwadau sylw,” meddai.

‘Neb uwchlaw’r gyfraith’

Fe rybuddiodd y Llefarydd Lindsay Hoyle fod y cyhuddiadau hyn a wnaed gan aelodau seneddol yn erbyn Rhif 10 yn rhai difrifol iawn.

Mae Channel 4 wedi postio fideo o’r hyn oedd gan y Llefarydd i’w ddweud, ar eu cyfrif Twitter:

“Nid yw’r rhai sy’n gweithio iddyn nhw uwchlaw’r gyfraith droseddol,” meddai.

“Mae’r gweithredoedd troseddol [o flacmêl] a dylid eu cyfeirio’r mater i’r Heddlu ac mae penderfyniadau dros droseddu yn fater i’r CPS. Mi fyddai’n amhriodol gwneud sylw.”

‘Ar ben ar Boris’

Yn ôl Steve Baker, aelod seneddol sy’n ddylanwadol o fewn y Blaid Geidwadol, mae’n rhagweld y bydd Boris Johnson yn cael ei orfodi o’i swydd.

Dywed y cyn-weinidog Brexit, sy’n cael ei ystyried yn ffigwr dylanwadol ar y meinciau cefn, fod y sefyllfa bresennol yn “warthus”.

Mae Boris Johnson wedi annog aelodau seneddol i aros am adroddiad gan yr uwch-was sifil Sue Gray cyn penderfynu ar ei dynged. Roedd disgwyl yr adroddiad yr wythnos ddiwethaf.

Dywed Steve Baker nad yw’n gwrthdystio yn erbyn y Prif Weinidog, ond y byddai’n gweithredu pe bai’n dod i’r amlwg ei fod e wedi torri rheolau Covid neu wedi camarwain aelodau seneddol.

Wrth ymateb, dywed Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, fod “codi’r gwastad”, rhaglen ariannu Llywodraeth San Steffan i gydraddoli rhannau o’r Deyrnas Unedig, wedi troi’n “flacmêl”.

‘Angen ymchwiliad llawn i gyhuddiadau bod Rhif 10 yn “blacmelio” aelodau seneddol

Ceidwadwr yn dweud bod staff Rhif 10 yn bygwth rhyddhau straeon am aelodau seneddol sy’n gwrthwynebu Boris Johnson, a thynnu cyllid o’u hetholaethau