Mae Cwnsler Cyffredinol Cymru yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gefnogi diwygiadau i gymorth cyfreithiol.
Daw hyn yn dilyn toriadau yn y gyllideb dros y degawd diwethaf sy’n bygwth creu “un gyfraith i’r cyfoethog ac un arall i’r tlawd”, yn Mick Antoniw.
Mae hefyd yn codi pryderon am yr heriau i gyfreithwyr sy’n cael eu hariannu gan gymorth cyfreithiol, gan ddweud nad yw’n “syndod bod elfen gyfreithiol y proffesiwn yn cael ei digalonni” a bod y Bar yn bwriadu cymryd camau cyfreithiol.
Dywed fod cyfreithwyr, paragyfreithwyr, cynghorwyr a gweithwyr proffesiynol y trydydd sector sydd “yn gweithio’n ddiflino ar gymorth cyfreithiol neu am ddim yn arwyr cymunedol”.
Cyllid ychwanegol
Yn dilyn adolygiad Annibynnol ar Gymorth Cyfreithiol Troseddol, dan gadeiryddiaeth Syr Christopher Bellamy QC, mae’n awgrymu bod angen o leiaf £135m o gyllid ychwanegol bob blwyddyn i sicrhau bod digon o adnoddau ar gael i’r proffesiwn cyfreithiol troseddol.
Amcangyfrifodd yr adolygiad fod tua 56% o’r rhai a gafodd eu harestio yn gofyn am gyngor cyfreithiol am ddim, ac mae e wedi mynegi pryder nad yw’r nifer sy’n manteisio ar gyngor cyfreithiol yn uwch.
“Nid nhw yw’r cyfreithwyr mawr, y Fat Cats fel y’u gelwir y mae’r wasg mor hoff o adrodd amdanynt, nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi fel un o’r gwasanaethau pwysicaf mewn cymdeithas sifil,” meddai.
“Gwasanaeth y mae angen ar lawer o’r bobol sydd fwyaf agored i niwed a difreintiedig yn ein cymunedau ac sydd mor ddibynnol arno. Ac mae’n sector sy’n marw’n araf.”
Pledio’n euog i arbed costau
Fe gyfeiriodd at sgandal y Postfeistri a gafodd eu cyhuddo ar gam a’r diffyg cymorth cyfreithiol oedd ar gael i’r teuluoedd sydd yn profi effeithiau trychineb Hillsborough.
“Mae unigolion sy’n wynebu erlyniad troseddol, a charcharu, yn ofni y gallai costau ariannol amddiffyn eu hunain eu gofodi i fynd yn fethdal hyd yn oed os ydyn nhw’n llwyddiannus,” meddai.
“Mae hyn yn golygu mai’r unig opsiwn y gallant ei ddewis yn rhesymegol yw pledio’n euog i drosedd nad ydynt wedi’i chyflawni, fel bod eu cartref ac asedau eraill yn cael eu diogelu er budd eu teulu.”
Dywed y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol fod hyn yn mynd ymhellach na mater cyfreithiol ond ei fod yn fater o gyfiawnder.
“Mae mynediad at gyfiawnder – yr hawl i gyngor, cynrychiolaeth a chefnogaeth – yn hawl ddynol sylfaenol. Yn ei hanfod, mae cymorth cyfreithiol effeithiol yn ymwneud â grymuso pobl a sicrhau bod gan bob un o’n hawliau gwirioneddol mewn cymdeithas,” meddai.
“Nid yn unig mae hyn yn fater cyfreithiol ond yn un o gyfiawnder cymdeithasol, ac mae’r achos dros ddiwygio yn glir.”
Adroddiad
Cyhoeddodd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru adroddiad yn 2019 oedd yn nodi bod cyfanswm y gwariant ar gymorth cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr wedi gostwng 29% mewn termau real rhwng 2011-12 a 2018-19.
Fe ddaeth yr adroddiad hwnnw i’r casgliad hefyd fod y £36m a gafodd ei wario ar gymorth cyfreithiol yng Nghymru yn 2018-19 yn cyfateb i £11.50 y pen o’r boblogaeth, gyda’r ffigwr cyfatebol yn Lloegr yn £15 y pen.
Er nad yw cyfiawnder wedi’i ddatganoli, ac er nad oes adnoddau ar gael i helpu’r rhai sy’n ei chael hi’n anodd cael cymorth cyfreithiol, mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau i roi cymorth i bobol.
Yn y flwyddyn ariannol hon, mae mwy na £10m o gyllid ar gael i wasanaethau’r Gronfa Gyngor Sengl yng Nghymru, gan helpu pobol i ddatrys problemau lles cymdeithasol lluosog sydd wedi hen ymsefydlu.
Mae hyn yn cynnwys cynrychiolaeth gerbron llysoedd a thribiwnlysoedd.
Yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, helpodd gwasanaethau’r Gronfa Gyngor Sengl yng Nghymru 127,813 o bobl i ddelio â 286,666 o broblemau lles cymdeithasol.