Mae cloc Aberfan wedi cael ei roi i gasgliad cenedlaethol Cymru.

Bydd y cloc bach, a stopiodd am 9:13yb, yr union amser y tarodd y domen lo y pentref, yn dod yn rhan o gasgliad Sain Ffagan.

Ers trychineb Aberfan, mae’r cloc wedi bod yng ngofal Mike Flynn.

Roedd ei dad, Mike Flynn (yr hynaf) yn bostmon ac yn barafeddyg yn y Fyddin Diriogaethol, ac fe wnaeth e gynorthwyo gyda’r ymdrech achub ar Hydref 21, 1966.

Bydd y cloc nawr yn cael ei symud i ofal Amgueddfa Cymru, er mwyn helpu cenedlaethau’r dyfodol i gofio am y drychineb.

Dywedodd Mike Flynn ei fod yn “hapus iawn” bod y cloc yn mynd i ofal Amgueddfa Cymru.

“Hoffwn i weld y cloc ac eitemau arall tebyg yn cael eu harddangos yn barhaol yn rhywle fel Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru – mae’n amgueddfa hanes Cymru a dyna’r lleoliad gorau ar gyfer y cloc,” meddai.

‘Gwrthrych pwysig’

Bydd y cloc yn cael ei arddangos yn Sain Ffagan “cyn gynted â phosib”, yn ôl Sioned Williams, Prif Guradur Hanes Modern yn yr Amgueddfa Werin.

“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Mike am roi’r cloc i gasgliad yr Amgueddfa. Bydd hwn yn ein galluogi i adrodd hanes moment bwysig yn hanes Cymru,” meddai.

“Ar ôl i’r cloc gyrraedd byddwn yn ei arddangos cyn gynted â phosib yn oriel Cymru… sy’n adrodd straeon Cymru drwy’r canrifoedd, a bydd ar gael i bawb i’w weld.

“Rydyn ni yn Sain Ffagan yn edrych ymlaen at weithio gyda Mike a chymuned Aberfan wrth baratoi i arddangos y gwrthrych pwysig hwn o hanes Cymru.

“Rydyn ni’n gobeithio casglu llawer mwy o wrthrychau yn ymwneud â thrychineb Aberfan.”