Cafodd pobol ifanc 16 ac 17 oed Cymru bleidleisio am y tro cyntaf yn etholiadau’r Senedd eleni, ac roedd nifer ohonyn nhw wedi edrych ymlaen at y diwrnod.

Er bod ambell un wedi dweud wrth golwg360 eu bod nhw ychydig yn bryderus cyn pleidleisio, roedden nhw i gyd yn gytûn fod y broses yn “syml”, ac yn fwy “chilled” na’r disgwyl.

Yn sgil cyfyngiadau diogelwch, ni chafodd y pleidleisiau eu cyfri dros nos neithiwr.

Mae’r cyfri wedi dechrau ers tua 9 bore heddiw, ac mae disgwyl i’r canlyniadau ddechrau cael eu cyhoeddi yn ystod y prynhawn.

“Methu disgwyl am y canlyniadau”

Un a gafodd bleidleisio am y tro cyntaf yn sgil y newid yw Dafydd Hedd, sy’n 17 oed, ac o Gerlan, Bethesda, Gwynedd.

“Fatha rhywun sydd wastad wedi bod yn hoff iawn o’r broses, a wastad wedi nagio mam – ‘hei, ga i ddod mewn?’ – roedd o’n deimlad rili cŵl,” meddai Dafydd wrth golwg360 am y profiad o bleidleisio am y tro cyntaf.

“Ro’n i ychydig bach yn confused i ddechrau, pan es i mewn a gweld lot o focsys gwahanol, ac efo ymbellhau cymdeithasol ac ati doeddwn i ddim yn siŵr iawn beth i’w wneud.

“Dw i’n meddwl fod o reit accessible, roedd yna lot o bobol sy’n gallu helpu yno,” ychwanega Dafydd, sy’n astudio Lefel A  Mathemateg, Ffiseg, a Saesneg yn Ysgol Tryfan ym Mangor.

“Ar y cyfan, roedd o’n brofiad rili da, a syml.

“Dw i wirioneddol methu disgwyl am y canlyniadau, a bod yn rhan ohono.”

Newid hinsawdd

Roedd yna lot o bethau pwysig i Dafydd Hedd eu hystyried wrth benderfynu sut i bleidleisio.

“O ran y pleidiau, ro’n i’n reit set ar beth roeddwn i eisio ei wneud, mae annibyniaeth yn rhywbeth rili pwysig i fi.

“Dw i’n tueddu i fod yn reit left-wing o ran economics, a pholisïau cymdeithasol ac ati, felly mae cael plaid sy’n cytuno efo fi ar gyfiawnder cymdeithasol, a phethau felly, reit bwysig.

“Ac wrth gwrs, yr iaith Gymraeg. R’on i eisio rhywun sy’n sefyll fyny i Gymru. A hefyd yn ystyried newid hinsawdd, oherwydd dw i’n meddwl ei fod o wirioneddol yn greisis.

“Mae angen cael llywodraethau sy’n gwneud rhywbeth am y peth, yn hytrach na disgwyl i ryw genie drwsio fo.”

Bydd Dafydd Hedd yn ddeunaw mewn ychydig o ddyddiau, ond gan mai 17 oed oedd o ar ddiwrnod y bleidlais ni chafodd bleidleisio er mwyn ethol Comisiynydd Heddlu a Throsedd.

“Ond ges i ddau allan o dri, felly mae hynny’n ddigon da i fi ar y funud.”

“Pleidleisio cyn mynd i’r ysgol”

Yn 16 oed, cafodd Swyn Huws o Drawsfynydd yng Ngwynedd bleidleisio am y tro cyntaf ddoe hefyd, a dywedodd ei bod hi’n “hapus iawn” ei bod wedi cael y cyfle.

“Fe wnes i bleidleisio yn y bora cyn mynd i’r ysgol, pan oedd y neuadd yn dawel.

“Ro’n i ychydig bach yn bryderus o ran beth ro’n i’n ei wneud, a lle ro’n i’n mynd achos fy mod i erioed wedi gwneud ffasiwn beth o’r blaen.

“Ond, roedd y bobol oedd yno’n rhoi’r papurau i mi yn barod i helpu, ac yn excited mai fi oedd y cyntaf o dan 18 oed i bleidleisio ar y diwrnod,” esboniodd wrth golwg360.

“Ro’n i wedi gweld y ffurflen bleidlais bost yn barod, felly ro’n i’n gwybod beth i’w ddisgwyl.

“Dad aeth â fi, ac fe wnaeth y ddau ohonom ni bleidleisio’r un pryd.

“I fod yn onest, roedd y profiad lot mwy chilled na be ro’n i’n ei ddisgwyl, ond mae hynny am gorau fyswn i’n ei ddweud!

“Dw i’n hapus iawn fy mod wedi cael y cyfle i bleidleisio ddoe, ac yn edrych ymlaen at y canlyniadau.”

“Rhan o rywbeth mwy”

Bu rhai o ddisgyblion chweched dosbarth Ysgol Godre’r Berwyn, yn y Bala, yn pleidleisio am y tro cyntaf hefyd, ac yn trafod y broses gyda golwg360.

“Fe es i yna ar amser eithaf tawel, ac roedd o’n union beth ro’n i wedi ei ddisgwyl,” meddai Rhys Llewelyn.

Dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at gael pleidleisio, a’i fod yn teimlo fel bod ei lais yn cael ei glywed am y tro cyntaf.

“Dyna’r peth mwyaf, gwybod eich bod chi’n rhan o rywbeth mwy – fod fy mhleidlais i fel un person, ond fod pleidleisiau accumulative pawb efo’i gilydd yn gwneud dipyn o wahaniaeth.

“Dw i’n teimlo’n falch o’n hun.”

“Teimlad anhygoel”

“Roedd o’n brofiad briliant,” meddai Glain Eden, sy’n astudio Lefel A Cymraeg, Hanes, ac Addysg Grefyddol.

“Ro’n i reit nerfus â dweud y gwir, dw i ddim yn siŵr iawn pam!

“Ond, roedd pob dim yn grêt, ac wedi’i osod allan yn dda o ran Covid.

“Mae’n deimlad anhygoel gwybod fod fy marn i’n cael ei gynnwys ym mhenderfyniadau’r wlad.”