Mae Rhodri Evans, Cynghorydd Llangeitho, wedi dweud wrth golwg360 fod pobol leol yn “ofidus iawn” wrth i’r chwilio barhau am ddyn mewn cysylltiad ag ymosodiad difrifol yn yr ardal.

Mae’r Heddlu’n rhybuddio pobl i beidio codi unrhyw un sy’n bodio ar hyn o bryd gan y gallai’r dyn geisio gwneud hynny.

Mae gwiriadau ar y ffyrdd hefyd yn cael eu cynnal ar yr A485, i’r de o Langeitho, mewn cysylltiad â’r chwilio.

Credir bod y dyn yn gwisgo cot lliw Khaki, a throwsus gwyrdd tywyll.

Gofid lleol

“Yn bendant mae llawer o bobol yn ofidus iawn ar hyn o bryd,” meddai Rhodri Evans wrth golwg360.

“Mae rhywbeth fel hyn wastad yn mynd i greu gofid o fewn cymuned.

“Dw i’n gobeithio y bydd yr heddlu’n darganfod y person yma cyn gynted â phosib.

“Yn y cyfamser, dylai pobol ddilyn cyfarwyddyd yr heddlu a chloi eu drysau.”

Dylai unrhyw un sy’n gweld y dyn gadw draw a ffonio’r heddlu ar 999.

  • Diweddariad:

Cafodd dyn 45 oed ei arestio fore ddoe (dydd Gwener, Mai 7) ar ôl i Heddlu Dyfed-Powys fod yn chwilio’r ardal a thu hwnt, ac maen nhw’n cefnogi’r unigolyn ddioddefodd yr ymosodiad.