Mae un o hoelion wyth Llafur Newydd wedi beio Jeremy Corbyn a’r coronafeirws, wedi i Lafur golli ei gafael ar etholaeth Hartlepool.

Mae’r Ceidwadwyr wedi cipio’r sedd mewn is-etholiad, a hynny am y tro cyntaf ers bron i 50 mlynedd.

Roedd Jill Mortimer wedi curo’r ymgeisydd Llafur Dr Paul Williams o 6,940 o bleidleisiau.

Ac mae’r Arglwydd Peter Mandelson – sy’n gyn-Aelod Seneddol Hartlepool ar ran y Blaid Lafur – wedi bod yn dadansoddi’r canlyniad ar Radio 4 y BBC.

A thra bo’r chwyddwydr ar arweinyddiaeth Keir Starmer o’r Blaid Lafur yn sgîl y canlyniad gwael, ei ragflaenydd sydd dan y lach gan Peter Mandelson.

“Credwch neu beidio, wnaeth yr un pleidleisiwr sôn am Brexit wrtha i wrth gnocio drysau.

“Yr un peth wnaethon nhw godi oedd Jeremy Corbyn – mae dal yn gwmwl mawr du dros y Blaid Lafur.

“Nid yw pleidleiswyr Llafur am faddau hyn yn hawdd, mae [Corbyn] yn parhau i’w cynddeiriogi nhw.”

Ychwanegodd yr Arglwydd Mandelson:

“Y gwir reswm am y golled… petae yn rhaid i mi ddweud dau beth, byddwn yn enwi… covid a Corbyn.

“Gydag ychydig bach o Brexit hefyd – cyn-bleidleiswyr Plaid Brexit yn cefnogi eu dyn, Boris Johnson, sydd wedi delifro Brexit iddyn nhw. Ac hefyd wedi addo celc mawr o arian y Llywodraeth Dorïaidd iddyn nhw.

“Gyda’i gilydd, roedd y ffactorau hyn yn gyfuniad cryf iawn i’r ymgyrch Lafur ei herio.”

Y Ceidwadwyr yn cipio sedd Llafur yn isetholiad Hartlepool

Ergyd i Keir Starmer ar ôl colli’r etholaeth am y tro cyntaf ers bron i 50 mlynedd