Bydd cyfyngiadau newydd yn dod i rym yng Nghymru am chwech heno, (Rhagfyr 4), er mwyn atal lledaeniad y coronafeirws.

Bydd rhaid i dafarndai, bariau, bwytai a chaffis gau am chwech yr hwyr, a fyddan nhw ddim yn cael gweini alcohol – ond bydd hawl ganddynt ddarparu gwasanaeth tecawê drwy’r dydd ac ar ôl 6yh.

Bydd rhaid i sinemâu, canolfannau bowlio deg ac atyniadau ymwelwyr dan do fel amgueddfeydd gau yn llwyr.

Ond mi fydd atyniadau awyr agored a gwasanaethau nad ydyn nhw’n hanfodol, gan gynnwys siopau, siopau trin gwallt, a chanolfannau hamdden, yn aros ar agor.

‘Dryswch’

Bu peth dryswch yn dilyn y cyhoeddiad ynghylch a fydd tafarndai, bwytai a chaffis yn cael gwerthu alcohol.

Cadarnhaodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru golwg360 y bydd modd i leoliadau sydd â thrwydded i werthu alcohol oddi ar y safle barhau i wneud hynny tan 10yh.

Mae sawl tafarn wedi penderfynu cau eu drysau yn sgil y cyhoeddiad, gan ddweud bod y costau rhedeg yn gorlethu’r manteision o agor heb gwrw, ac mae Mark Drakeford wedi’i gyhuddo o anwybyddu arweinwyr lletygarwch.

Ymhlith y gwrthwynebiad mae mwy na 130 o fusnesau yng ngogledd Cymru wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog yn rhannu eu pryderon.

Fodd bynnag, wrth gyhoeddi’r cyfyngiadau newydd ddechrau’r wythnos, dywedodd Mark Drakeford fod rhaid ymateb nawr.

“Oni bai ein bod yn ymateb nawr i’r nifer cynyddol o bobol sydd wedi’u heintio â’r feirws, gallai cyfanswm nifer y bobol â coronafeirws yn yr ysbyty yng Nghymru godi i 2,200 erbyn Ionawr 12,” meddai.

Ochr yn ochr â’r cyfyngiadau newydd mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi pecyn cymorth gwerth £340m i gefnogi’r diwydiant lletygarwch.

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Paul Davies, yn dweud bod cyfyngiadau cenedlaethol yn annheg i ardaloedd â chyfraddau isel o’r haint.