Mae disgwyl i’r trafodaethau Brexit barhau heddiw (Dydd Gwener, Rhagfyr 4) yn sgil rhybuddion bod y gobaith o ddod i gytundeb yn “pylu”.
Roedd y trafodaethau rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd wedi dod i ben ddydd Iau – gyda Phrydain yn honni bod Brwsel yn galw am gonsesiynau newydd ar yr unfed awr ar ddeg.
A gyda’r cyfnod trosglwyddo yn dod i ben ar Ragfyr 31, ychydig iawn o amser sydd i ddod i gytundeb a fydd wedyn yn gorfod cael ei gymeradwyo gan arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd, San Steffan a Senedd Ewrop.
Dywedodd ffynhonnell o fewn Llywodraeth y DU: “Ar yr unfed awr ar ddeg mae’r UE yn dod ag elfennau newydd i’r trafodaethau.
“Mae cytundeb yn bosib o hyd yn y dyddiau nesaf ond mae’r gobeithion yn pylu.”
Mae’n debyg bod hawliau pysgota yn parhau’n faen tramgwydd yn y trafodaethau.
Yn ôl adroddiadau roedd disgwyl i brif negodwr yr UE, Michel Barnier, ddychwelyd i Frwsel ddydd Gwener ond fe allai ddod yn ôl yn syth i Lundain.
Yn y cyfamser mae disgwyl i’r Prif Weinidog Boris Johnson fwrw ymlaen gyda chynlluniau i ganiatáu i weinidogion anwybyddu’r cytundeb Brexit mae o eisoes wedi’i gytuno, er gwaetha’r ffaith bod y trafodaethau ar hyn o bryd wedi cyrraedd pwynt tyngedfennol.
Fe fydd y Llywodraeth yn gofyn i Aelodau Seneddol i adfer deddfwriaeth ddadleuol a fydd yn rhoi’r hawl i weinidogion dorri cyfraith ryngwladol drwy anwybyddu elfennau o’r Cytundeb Ymadael sy’n ymwneud a Gogledd Iwerddon.
Fe fydd Aelodau Seneddol yn pleidleisio ar Bil y Farchnad Fewnol ddydd Llun.
Mae’r UE eisoes wedi dechrau’r broses o gymryd camau cyfreithiol ynglŷn â’r ddeddfwriaeth.