Mae cyllid isadeiledd y diwydiant rheilffyrdd ym Mhrydain wedi cael ei dorri gan £1bn yn dilyn Adolygiad Gwariant y Canghellor.
Dywedodd y gweinidog rheilffyrdd Chris Heaton-Harris y bydd cyllideb Network Rail ar gyfer gwelliannau yn ystod 2019-2024 yn £9.4 biliwn.
Mae hynny’n ostyngiad o bron i 10% o’r £10.4bn yr oedd disgwyl i Network Rail ei dderbyn dros gyfnod o bum mlynedd.
Nid oedd y Canghellor Rishi Sunak wedi son am y gostyngiad yn ei Adolygiad Gwariant wythnos ddiwethaf gan ddweud wrth Dy’r Cyffredin bod gan y Llywodraeth “gynlluniau mawr i fuddsoddi mewn isadeiledd.”
Mae gostyngiad o £1bn yn debygol o gael effaith sylweddol ar brosiectau Network Rail yn y dyfodol.
Dywedodd Cymdeithas y Diwydiant Rheilffyrdd bod y penderfyniad yn “siomedig iawn.”
Nid yw cyllideb Network Rail ar gyfer gwasanaethau, cynnal a chadw ac adnewyddu wedi newid.