Mae’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi amddiffyn y cyfyngiadau newydd fydd yn dod i rym heddiw.

Eglurodd Vaughan Gething fod y mesurau yn debyg i’r rhai mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig.

“Rydym yn wynebu’r dewis ofnadwy o wneud dim a gweld nifer yr achosion yn cynyddu, a mwy o bobol ddim yn goroesi,” meddai’r Gweinidog Iechyd ar raglen Good Morning Britain.

“Neu gallem wneud rhywbeth fel hyn, ond wrth gwrs mae niwed gwirioneddol yn dod gydag ef hefyd,” meddai am y cyfyngiadau diweddaraf.

“Does dim dewis hawdd i’w wneud, ond mae’n ymddangos mai dyma sydd fwyaf effeithiol yn y Deyrnas Unedig, ac mae’r dystiolaeth yn cefnogi hynny.

“Dydw i ddim yn disgwyl i bobol yn y sector lletygarwch groesawu hyn, ond rwy’n gobeithio y byddan nhw’n deall y rhesymeg.”

£340m i gefnogi lletygarwch

Ochr yn ochr â’r cyfyngiadau newydd, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi pecyn cymorth gwerth £340m i gefnogi’r diwydiant lletygarwch.

Bydd hefyd modd i unrhyw fusnes sydd yn gorfod cau, i ddefnyddio cynllun ffyrlo Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Dw i ddim am wadu fod hyn am gael effaith sylweddol iawn ar y busnesau hynny, ar yr adeg waethaf o’r flwyddyn, ac rwy’n cydnabod hynny,” meddai Vaughan Gething.

“Ond os na fyddwn yn gweithredu ar y dystiolaeth, yna mae gen i ofn na fyddwn ni’n cyflawni ein cyfrifoldeb i gadw Cymru’n ddiogel a chadw pobol yn fyw.”