Medi Wilkinson
Medi Wilkinson

Mae Medi Wilkinson yn angerddol am fwyd, ac yn caru coginio ac “arbrofi gyda blasau amrywiol a chreu ryseitiau blasus”. Sut brofiad oedd cael bod yn ôl, felly, yng Ngŵyl Fwyd Caernarfon wedi Covid-19? Yma, mae’n rhannu ei phrofiadau o’r ŵyl ar stepen ei drws. 

Roedd yr haul ar entrych yr awyr a’r dref yn barod am ei Gŵyl Fwyd gyntaf ers torri firws COVID19. O’r cychwyn cyntaf. Roedd yma arwyddion amlwg fod y dref am fod dan ei sang gyda bwrlwm a chyffro’n bwydo’r stondinau amrywiol a’u perchnogion. Roedd yma 30mil o bobol yn yr ŵyl ddiwethaf. Roedd yna’n hawdd ddwbl hynny eleni. Dyw tref Caernarfon erioed wedi gweld gŵyl ar y raddfa hon, dyma dro cyntaf go iawn! Roedd yma deimlad o faes Eisteddfod amdani, gyda’r Gymraeg i’w chlywed ym mhob twll a chornel. Roedd stondinau amrywiol bwyd a diod wedi eu gwasgaru ar hyd y dref gyda rhywbeth i’w flasu neu i’w brynu at ddant pawb. Gwelais ffrindiau nad oeddwn wedi’u gweld ers blynyddoedd lawer, ambell un ers degawdau a braf oedd cael taro sgwrs unwaith yn rhagor.

Un o’m prif ddiddordebau yw bwyd. Rwy’n caru coginio bwyd, arbrofi gyda blasau amrywiol a chreu ryseitiau blasus. Ond, ers COVID19, dw i wedi ei gweld yn anodd cymdeithasu, yn arbennig mewn digwyddiadau torfol. Mae’n rhaid i mi gyfaddef mod i’n nerfus yn croesi trothwy fy nrws i’r ŵyl, ond ro ni’n gwybod y byddai’r profiad yn un i’w fwynhau. Daeth yn amlwg wedi’r awr ddwy gyntaf fy mod wedi fy llyncu ym mwrlwm ac egni’r ŵyl ac wedi hen orchfygu unrhyw orbryder yr oeddwn yn poeni amdano. Dyma ffenestr i werthfawrogi blasau ac arogleuon newydd o bedwar ban byd a chyfle i mi fod yn rhan o gymuned yr oeddwn wedi’i cholli. Gyda chymaint yn cwyno am sgil effaith diffyg arogli a blasu gyda’r firws, roedd yma eironi hyfryd fod yr union ddau beth yma wedi dod a miloedd ynghyd i ddathlu cynnyrch lleol a chenedlaethol. Nid bwyd yn unig oedd yno ychwaith, ond diod, pysgod, bwyd llysieuol, crefftau, da byw a gweithgareddau ar gyfer plant.

Cynhwysion Caernarfon
Cynhwysion o Ŵyl Fwyd Caernarfon i greu bwrger tsili Wagyu

Felly. Dyma ofyn – beth aeth a’m bryd yn yr ŵyl? Yn syml, cynnyrch bwyd o Siapian, Affrica, Cymru a Mecsico. Roedd gen i un rheol – fod  popeth yr oeddwn i’n ei wario yn flasau newydd a’m prif gôl oedd creu rhywbeth blasus gyda’r cynhwysion amrywiol.

Canlyniad y wledd? Bwrger Tsili Wagyu Medi. Cig blasus gwartheg duon yw cig wagyu sy’n nodedig am gyfoeth ei flas. Bwrger cig eidion mewn rôl ffres gyda mwstard, caws glas, saws chili Affricanaidd maggies, scotch bonet a chynhwysyn cyfrinachol. Rhybudd rhag blaen fod y bwrger hwn ar raddfa tsili schoville! Ar gyfer y rhai ohonoch sydd ddim mor fentrus gyda tsili, gallwch roi picl falle neu gynhwysyn yn lle’r scotch bonnet!

A dyna un antur fawr na anghofia i! Llongyfarchiadau mawr i’r pwyllgor a gwirfoddolwyr am eu gwaith diflino yn creu digwyddiad mor arbennig. Gyda chymaint o awch am ŵyl fel hon, beth am wasgaru’r ŵyl dros ddau ddiwrnod y flwyddyn nesa? A hyd yn oed ddarparu trefniant ‘park and ride’ os yn bosibl? Ar ôl dwy i dair blynedd dawel ac ynysig, fe ffrwydrodd fy myd y penwythnos hwn mewn mor o liwiau, blasau a syniadau beiddgar. Pwy feddylia bod bywyd cymaint gwerth ei fyw unwaith eto? Nid un ŵyl fwyd ymhlith cannoedd yw hon, mae hi’n ŵyl unigryw a’i gwreiddiau’n ddwfn yn niwylliant tref Caernarfon. Diwylliant sy’n croesawu dylanwadau byd eang. Mae hi’n ŵyl sydd wedi ysbrydoli ond yn ŵyl hefyd sydd wedi cynnig gobaith newydd i ni eleni, wedi cyfnod sobor o dywyll yn ein hanes.

Gŵyl Fwyd Caernarfon – mewn lluniau

Tyrrodd y bobol yn eu miloedd draw i Gaernarfon ddydd Sadwrn ar gyfer yr Ŵyl Fwyd, y cyntaf ers 2019. Dyma flas ar yr hwyl a gafwyd

Trefnwyr Gŵyl Fwyd Caernarfon yn “edrych ymlaen at flwyddyn nesaf”

Elin Wyn Owen

Ar ôl denu 30,000 o ymwelwyr yn 2019, mae’n debyg bod yr ŵyl yn fwy poblogaidd nag erioed eleni, gyda chynifer â 50,000 o bobol yno
Gŵyl Fwyd Caernarfon, 2019

Gŵyl Fwyd Caernarfon yn disgwyl torfeydd mawr ar ôl dwy flynedd ffwrdd

Elin Wyn Owen

Mae’r ŵyl a gychwynnodd yn 2016 yn cael ei threfnu gan griw o wirfoddolwyr, ac maen nhw’n disgwyl dros 30,000 o ymwelwyr eleni