Dylid codi cerflun o arweinydd Merched Beca, meddai awdur cyfrol newydd am Twm Carnabwth wrth golwg360.

Mae Thomas Rees, neu Twm Carnabwth, yn “dipyn o arwr lleol” yn y Preselau ac yn “haeddu cael ei gofio”, yn ôl Hefin Wyn.

Twm Carnabwth oedd arweinydd cyntaf Merched Beca, a ddinistriodd dollborth Efail-wen ger Mynachlog-ddu deirgwaith yn 1839.

Byddai’n dda gweld cerflun yn cael ei godi i rywun “oedd yn ceisio cael gwared ar yr ormes oedd ar y werin”, meddai awdur y gyfrol Ar Drywydd Twm Carnabwth Hanes Dechrau Gwrthryfel Becca.

“Mae cerfluniau yn cael eu codi i chwaraewyr rygbi a chwaraewyr pêl-droed ar draws y de,” meddai Hefin Wyn wrth golwg360.

“Mae yna gerfluniau wedi cael eu codi’n ddiweddar i ferched sydd wedi cyfrannu at ein bywyd ni fel cenedl, Elaine Morgan a Betty Campbell.

“Mae yna gerflun wedi’i godi’n ddiweddar lawr ym Mhenfro i gofio am William Marshall, Norman.

“Roedd e’n ormesydd Cymru, ond byddai codi cerflun i Twm yn golygu ein bod ni’n cydnabod rhywun oedd yn ceisio cael gwared ar yr ormes oedd ar y werin.

“Mae e’n rhan o gof ein cenedl ni.”

Lledaenodd Helyntion Beca i rannau eraill o Gymru rhwng 1839 a 1843, wrth i’r werin wrthwynebu’r tollbyrth oedd ar ffyrdd tyrpeg Cymru

“Byddai’n rhaid gwisgo betgwn a phais am Twm Carnabwth o wneud cerflun ohono fo gan eu bod nhw’n gwisgo dillad merched pan oedden nhw’n ymosod ar y tollbyrth,” meddai.

Er ei bod hi’n ddyddiau cynnar ar y funud, mae Hefin Wyn yn tybio mai gosod y cerflun yn ardal Mynachlog-ddu ac Efail-wen fyddai orau, a bod angen ffurfio pwyllgor i wireddu’r syniad.

Ar drywydd Twm Carnabwth

Nod cyfrol newydd Hefin Wyn yw gosod hanes Twm Carnabwth a Merched Becca yn ei gyd-destun hanesyddol, a chyflwyno cefndir economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol yr ardal ar y pryd.

Er bod cyfrolau wedi cael eu cyhoeddi am Ferched Beca, mae cefndir Twm Carnabwth wedi bod yn fymryn o ddirgelwch.

“Mae yna gyfrolau arobryn wedi’u cyhoeddi [fel] The Rebecca Riots gan David Williams, athro Hanes Cymru yn Aberystwyth oedd yn digwydd bod yn dod o’r cylchoedd yma, ond dim llawer o sylw i Twm yn fan hynny,” meddai Hefin Wyn.

“Mae cefndir Twm wedi bod yn ddirgelwch i lawer, dw i’n credu, roedd hi’n anodd dod o hyd i wybodaeth.

“Ond rydyn ni wedi bod yn twrio ac wedi bod yn darllen cofnodion ycyfnod, adroddiadau papur newydd, ac wedi dod o hyd i dipyn o wybodaeth am Twm, ac wedi bod yn ceisio darganfod mwy o wybodaeth am yr ach.

“Roedd gen i dîm o ymchwilwyr profiadol yn medru darllen ewyllysiau’r cyfnod a chofnodion eglwysig ac ati i geisio gosod y teulu at ei gilydd, ond eto mae yna rywfaint o ddirgelwch ynglŷn â magwraeth Twm yn bodoli.

“Efallai bod hynny’n beth da, ein bod ni ddim yn gwybod bob dim am yr arwr.”

Wrth wneud yr ymchwil, daeth Hefin Wyn a’r tîm o hyd i gadarnhad ynghylch pwy oedd y ddynes wnaeth roi benthyg ei dillad i Twm.

“Roedden nhw’n cael eu galw’n Bois y Beca ar ôl Rebeca Thomas, oedd yn byw yn weddol agos i Garnabwth ar y pryd,” meddai.

“Mae hynny’n dodi hoelen yn arch y syniad braidd yn gyfeiliornus yma mai adnod o lyfr Genesis oedd wedi rhoi ei hun yn enw i’r mudiad.”

Mae rhai wedi dyfalu bod enw’r mudiad yn dod o’r adnod: ‘Ac a fendithiasant Rebbecah, ac a ddywedasant wrthi, “Ein chwaer wyt, bydd di fil fyrddiwn; ac etifedded dy had borth ei gaseion.”

Ond yn ôl Hefin Wyn, mae hynny’n “ffwlbri llwyr, mae’n debyg”.

“Mae yna gefnderwyr i Twm oedd wedi cyhoeddi llyfryn am hanes Capel Penygroes ger Crymych yn y 60au, maen nhw’n nodi yn bendant, bendifaddau, nad oedd gan yr adnod ddim oll i wneud gyda chychwyn y mudiad, na fyddai Twm Carnabwth o bawb yn hyddysg yn adnodau’r Beibl a bod yr esboniad yn llawer mwy syml ac ymarferol – cael benthyg dillad gan ddynes, a defnyddio enw’r ddynes wedyn i alw eu hunain yn chwyldroadwyr, gwrthryfelwyr.”

Cafodd Ar Drywydd Twm Carnabwth Hanes Dechrau Gwrthryfel Becca ei lansio yng Nghaffi Beca yn Efail-wen nos Wener (Mai 13), ac mae’r gyfrol bellach ar werth.