Dychwelodd Gŵyl Fwyd Caernarfon i’r dref am y bumed flwyddyn dydd Sadwrn (Mai 14), ar ôl i’r ŵyl gael ei gohirio ddwy flynedd yn olynol yn sgil Covid, ac mae’r trefnwyr yn tybio bod hyd at 50,000 o bobol yno.

Roedd y digwyddiad eleni yn fwy nag erioed, gyda 130 o stondinau yn dathlu bwyd lleol wedi eu gwasgaru ar draws canol y dref.

Yn cynnig popeth o fwyd Caribî i fedd traddodiadol Cymreig, roedd y trefnwyr yn awyddus i sicrhau bod rhywbeth i bawb.

Yn ogystal â’r stondinau bwyd a chelf a chrefft, roedd pedair llwyfan yn dathlu talentau lleol, gyda pherfformiadau gan Bwncath, Papur Wal, Gwilym Bowen Rhys, Côr Dre a mwy.

“Awyrgylch grêt”

Ar ôl denu 30,000 o ymwelwyr yn 2019, mae’n debyg bod yr ŵyl yn fwy poblogaidd nag erioed eleni, ac mae Nici Beech, y cadeirydd, yn dweud eu bod nhw wedi clywed sôn bod cynifer â 50,000 o bobol yno.

“Mae hi’n anodd i ni gyfri faint o bobol ddaeth gan fod pobol yn cyrraedd trwy’r dydd a rhai yn gadael, ond fyswn i’n dweud fod yna fwy na thro diwethaf, yn bendant,” meddai wrth golwg360.

“Mae yna rywun o’r heddlu wedi dweud wrthon ni fod nhw’n meddwl fod 50,000 o bobol wedi dod.

“O ran awyrgylch roedd hi’n grêt.

“Roedden ni gyd yn falch iawn efo sut aeth hi.

“Mae’r stondinwyr yn hapus iawn ar y cyfan efo eu gwerthiant.

“Yn amlwg, roedd yna lot o giwio am y bwyd stryd ac roedden ni wedi derbyn cymaint o gwmnïau ag yr oedden ni’n gallu, ond roedd pobol yn reit hapus efo gwneud os oedden nhw’n cael bwyd neis yn y diwedd. Ond dw i’n meddwl fel yna mae hi ynde.”

Yr Ŵyl yn tyfu…

Er bod costau cynnal yr Ŵyl Fwyd yn cynyddu’n flynyddol, mae siawns y bydd yr ŵyl yn ymestyn ymhellach ar draws y dref yn y dyfodol.

“Dydan ni heb gymryd y dref i gyd drosodd felly dw i’n siŵr y byswn ni’n gallu,” meddai Nici Beech wedyn.

“Mae yna strydoedd oedd heb stondinau arnyn nhw felly byswn ni’n gallu cael mwy o stondinau a defnyddio mwy o ardaloedd gwahanol.”

Ond mae dyfodol yr ŵyl yn edrych yn “grêt” ar ôl ei llwyddiant dros y penwythnos.

“Rydan ni’n edrych ymlaen at flwyddyn nesaf,” meddai wedyn.

“Byddwn ni’n rhannu holiadur heddiw i ofyn barn pobol a fuodd yno ac yna’n dod at ein gilydd i drafod yr adborth a dechrau cynllunio at flwyddyn nesaf.

“Byddwn ni’n dechrau cynllunio ychydig o weithgareddau llai fel yr ydym wedi bod yn gwneud yn y gorffennol, nosweithiau bwyd lleol, marchnad Nadolig ac yn y blaen i godi arian ar gyfer y nesaf.”

‘Dal cyfle i gyfrannu’

Mae’r Ŵyl Fwyd, sy’n dathlu cymeriad a diwylliant Caernarfon – ynghyd â bwyd lleol – yn ddibynnol ar ddenu cyllid i’w chynnal.

Er bod y trefnwyr yn benderfynol o gadw’r Ŵyl am ddim i’w mynychu, maen nhw’n parhau i alw am gyfraniadau er mwyn sicrhau y gall y pwyllgor ariannu gwyliau’r dyfodol.

Oddeutu £32,000 oedd cost cynnal y digwyddiad y tro diwethaf yn 2019, a bu chyfraniad o £2,250 i’r bwcedi gan y cyhoedd ar y diwrnod.

Ond mae’r trefnwyr yn hapus iawn gyda llwyddiant eu hymgyrch ar-lein i godi arian eleni, ac yn dweud bod cyfle o hyd i gyfrannu.

“Rydan ni’n hapus iawn efo faint oedd wedi rhoi ar-lein i ni, rhywbeth sy’n newydd i ni felly mae o’n bonws i ni,” meddai Nici Beech wedyn.

“Roedd y cyfraniadau yn dal i ddod i mewn ddoe ac rydan ni’n dal i rannu ar ein cyfryngau cymdeithasol, felly mae yna dal cyfle i wneud os ydi pobol wedi mwynhau dros y penwythnos.”

Mae hi’n bosib cyfrannu at yr ŵyl yma.

Gŵyl Fwyd Caernarfon – mewn lluniau

Tyrrodd y bobol yn eu miloedd draw i Gaernarfon ddydd Sadwrn ar gyfer yr Ŵyl Fwyd, y cyntaf ers 2019. Dyma flas ar yr hwyl a gafwyd

Caernarfon yn gosod y bwrdd

Non Tudur

Mae popeth yn ei le at loddest fawr yr Ŵyl Fwyd yfory, ar ôl dwy flynedd o saib
Gŵyl Fwyd Caernarfon, 2019

Gŵyl Fwyd Caernarfon yn disgwyl torfeydd mawr ar ôl dwy flynedd ffwrdd

Elin Wyn Owen

Mae’r ŵyl a gychwynnodd yn 2016 yn cael ei threfnu gan griw o wirfoddolwyr, ac maen nhw’n disgwyl dros 30,000 o ymwelwyr eleni