Bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu rhaglen a oedd yn arfer cael cyllid gan yr Undeb Ewropeaidd “yn dilyn methiant Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gadw eu haddewid i ddisodli’r cyllid”.

Fe fydd y rhaglen i helpu’r bobol fwyaf difreintiedig i ddod o hyd i waith yn cael ei hymestyn yn 2023, ar ôl i ddwy raglen oedd yn cael eu hariannu gan yr Undeb Ewropeaidd ddirwyn i ben.

Wrth gyhoeddi’r cynlluniau ar gyfer rhaglen gyflogadwyedd Cymunedau am Waith a Mwy (CfW+), dywedodd Vaughan Gething, Ysgrifennydd yr Economi, eu bod nhw’n camu i’r adwy “yn dilyn methiant Llywodraeth y Deyrnas Unedig i anrhydeddu addewidion mynych na fyddai Cymru’n derbyn ceiniog yn llai o arian ar ôl i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd”.

O dan Gronfeydd Strwythurol a Buddsoddi’r Undeb Ewropeaidd, buddsoddodd Llywodraeth Cymru arian mewn amrywiaeth o gynlluniau, gan gynnwys rhai i helpu pobol i gael gwaith.

Dau o’r cynlluniau hynny yw Cymunedau am Waith, a Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth (PaCE).

Ers 2015, mae £135m wedi’i fuddsoddi yn y cynlluniau hyn, sydd wedi darparu cymorth a hyfforddiant cyflogaeth yn y gymuned i 41,000 o unigolion sydd â rhwystrau cymhleth.

Mae dros 17,500 o’r unigolion hynny wedi cael cymorth i gael gwaith.

Roedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi addo disodli ac “o leiaf gyfateb i faint” hen gyllid yr Undeb Ewropeaidd ym mhob gwlad yn y Deyrnas Unedig.

Fodd bynnag, mae camau gweithredu Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer arian newydd yr Undeb Ewropeaidd yn golygu bod cyllideb Cymru dros £1bn yn llai, yn ôl Llywodraeth Cymru.

‘Gwrth-wneud datganoli’

Mae Llywodraeth Cymru’n cyhuddo Llywodraeth y Deyrnas Unedig o “wrth-wneud datganoli yng Nghymru yn fwriadol” wrth ddyrannu arian newydd yr Undeb Ewropeaidd yn uniongyrchol drwy’r Gronfa Ffyniant a Rennir – “sy’n golygu bod gan Lywodraeth Cymru bellach lai o reolaeth dros lai o arian”.

“Er gwaethaf yr addewid a wnaed gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig na fyddai Cymru ar ei cholled wedi i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeadd, y realiti yw ein bod yn wynebu colled o fwy nag £1bn mewn cyllid na chafwyd arian yn ei le,” meddai Vaughan Gething.

“Ni all Llywodraeth Cymru lenwi’r twll enfawr y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi’i greu yng nghyllideb Cymru, sy’n golygu y bydd angen i ni a’n partneriaid yng Nghymru – sydd wedi elwa o gyllid yr Undeb Ewropead o’r blaen – wneud penderfyniadau anodd ar beth i’w ariannu yn y dyfodol.

“Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o helpu pobol i mewn i swyddi o ansawdd da ac aros mewn swyddi o ansawdd da.

“Dyna pam yr ydym yn cymryd camau i ariannu rhaglen newydd i Gymru gyfan i gefnogi pobol i wneud hynny.

“Drwy ariannu’r gwaith hwn o ehangu Cymunedau am Waith a Mwy a chanolbwyntio ar bobol sydd wedi’u tangynrychioli yn y farchnad lafur a’r rhai sy’n wynebu anfanteision ac annhegwch i gael gwaith, byddwn yn creu Cymru fwy cyfartal – cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau.

“Er bod Gweinidogion y Deyrnas Unedig yn sôn am ffyniant bröydd o fewn y Deyrnas Unedig, Llywodraeth Cymru sy’n cyflawni dros bobol ledled Cymru drwy ariannu rhaglenni trawsnewidiol sy’n helpu i newid eu bywydau er gwell.”

 

Galw ar Lywodraeth San Steffan i “barchu datganoli” a rhoi £1bn yn ôl i Gymru

Nid “codi’r gwastad” yw hyn, ond “gostwng y gwastad”, meddai Vaughan Gething, Ysgrifennydd Economi Cymru