Mae Cyngor Sir Powys yn cynnig parcio yn rhad ac am ddim i bawb dros benwythnos y Jiwbilî Platinwm rhwng Mehefin 2-5.

Yn ôl y Cyngor Sir, mae’r “penwythnos hir yn gyfle i gymunedau ddod at ei gilydd i ddathlu’r garreg filltir hanesyddol hyn”.

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn gwahoddiad y Cyngor i wneud cais i gau ffyrdd ar gyfer partïon stryd, ac mae’r Cyngor yn dweud y “bydd dileu’r angen i dalu i barcio dros y penwythnos yn helpu i drefnu’r dathliadau hyn yn ein trefi lleol”.

“Rydym wrth ein bodd fod gymaint o’n cymunedau wedi gwneud cais i gau ffyrdd dros y penwythnos ac yn bwriadu trefnu parti stryd i ddathlu teyrnasiad hanesyddol y Frenhines,” meddai Nigel Brinn, Cyfarwyddwr Gweithredol yr Economi a’r Amgylchedd ar Gyngor Sir Powys.

“Trwy gynnig parcio am ddim dros y penwythnos, rydym yn gobeithio nid yn unig annog trigolion i ymweld â’n trefi lleol a bod yn rhan o’r dathliadau, ond hefyd gwneud ein rhan i gefnogi busnesau lleol sy’n anrhydeddu’r garreg filltir hanesyddol.”