Bydd Gŵyl Fwyd Caernarfon yn dychwelyd i’r dref heddiw (dydd Sadwrn, Mai 14) am y bumed flwyddyn, ar ôl i’r ŵyl gael ei gohirio ddwy flynedd yn olynol yn sgil Covid.
Mae’r ŵyl a gychwynnodd yn 2016 yn cael ei threfnu gan griw o wirfoddolwyr, ac maen nhw’n disgwyl dros 30,000 o ymwelwyr eleni.
Ac mae’n edrych yn debyg y bydd digwyddiad eleni yn fwy nag erioed, gyda 130 o stondinau yn dathlu bwyd lleol o fwyd môr i smwddis.
Yn ogystal â’r stondinau bwyd a chelf a chrefft, bydd pedair llwyfan yn cynnig cerddoriaeth byw gan berfformwyr lleol gan gynnwys Bwncath, Papur Wal, Gwilym Bowen Rhys a Chôr Dre.
Bydd gweithgareddau i blant, lloc anifeiliaid ac arddangosfeydd coginio gan Hybu Cig Cymru hefyd.
Gyda’r paratoadau wedi’u gwneud a’r stondinau yn prysur godi, mae’r cadeirydd Nici Beech yn dweud bod y criw o wirfoddolwyr yn frwdfrydig ac yn edrych ymlaen yn fawr at yr ŵyl.
“Gyda gwaed newydd ar y pwyllgor, mae’r trefniadau wedi bod yn grêt eleni,” meddai wrth golwg360.
“Ond mae yna hen lawiau fel fi, yr Ysgrifennydd a’r Swyddog Technegol sydd yn cofio be’ yr oedden ni’n gwneud fel arfer ac yn dysgu pob tro.”
Galw am gyfraniadau
Mae’r ŵyl sy’n dathlu cymeriad a diwylliant Caernarfon, ynghyd â bwyd lleol, yn ddibynnol ar ddenu cyllid i’w chynnal.
Er bod y trefnwyr yn benderfynol o gadw’r ŵyl am ddim i’w mynychu, maen nhw’n galw am gyfraniadau er mwyn sicrhau y gall y pwyllgor ariannu gwyliau’r dyfodol.
Oddeutu £32,000 oedd cost cynnal y digwyddiad y tro diwethaf yn 2019, a bu chyfraniad o £2,250 i’r bwcedi gan y cyhoedd ar y diwrnod.
“Rydan ni’n gweithio yn galed iawn i gael grantiau gan wahanol lefydd sy’n cynnig ond does dim sicrwydd bod grantiau ar yn parhau am byth,” meddai Nici Beech wedyn.
“Mae cost rhoi gŵyl ymlaen yn cynyddu pob blwyddyn efo prisiau tanwydd yn codi, prisiau danfon stondinau a llwyfannau yn codi ac yswiriant yn codi.
“Fel gŵyl, rydan ni wedi bod yn cynnal gweithgareddau dros y blynyddoedd i godi arian ac ymwybyddiaeth hefyd ond dyda ni heb allu cynnal y rheiny dros gyfnod Covid.
“Newydd gychwyn yr ymgyrch bach ar-lein i godi arian rydan ni, ac rydan ni wedi synnu bod pobol yn ymateb yn syth bin.”
Bydd modd cyfrannu yn yr ŵyl hefyd drwy roi arian yn y bwcedi neu ddefnyddio’r côd QR arnyn nhw i gyfrannu ar-lein.
- Bydd yr ŵyl, sy’n rhad ac am ddim, yn rhedeg o 10yb tan 5yh. Mae’r trefnwyr yn annog pobol i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd y dref lle bo modd, oherwydd prysurdeb yr ŵyl.