Mae cynghorwyr annibynnol Wrecsam wedi dod i gytundeb gyda’r Ceidwadwyr i redeg y Cyngor Sir, sydd wedi arwain at gyhuddiad eu bod nhw’n “dibrisio democratiaeth”.

Roedd trafodaethau ar y gweill dros y penwythnos ynglŷn â phwy fyddai’n ffurfio’r weinyddiaeth nesaf yn dilyn canlyniadau’r etholiadau lleol ddydd Gwener (Mai 6).

Lwyddodd yr un blaid i gyflawni mwyafrif ar y cyngor, gydag aelodau annibynnol yn ennill 23, Llafur 14, y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru naw yr un, a’r Democratiaid Rhyddfrydol â dim ond un cynghorydd.

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd yr aelodau annibynnol a’r Ceidwadwyr fod “y cytundeb hwn yn darparu partneriaeth sefydlog a phrofiadol o aelodau etholedig i adeiladu ar y gwaith sydd wedi’i wneud dros y pum mlynedd flaenorol”.

“Mae hwn yn gyfnod cyffrous i Wrecsam lle mae gennym rai prosiectau buddsoddi mawr fel Safle Treftadaeth y Byd, Porth Wrecsam, Amgueddfa Bêl-droed Cymru, Dinas Diwylliant a Chlwb Pêl-droed Wrecsam yn ceisio cyrraedd y gynghrair bêl-droed,” medden nhw.

“Ar ben hynny, mae’n bosib y bydd 5,500 o seddi yn cael eu hychwanegu i’r Cae Ras gyda’r gobaith y bydd pêl-droed rhyngwladol yn dychwelyd i Wrecsam.

“Rydym yn falch ein bod wedi dod i gytundeb ymarferol i redeg y cyngor am y pum mlynedd nesaf a byddwn yn parhau i adeiladu ar ein llwyddiant.

“Byddwn yn gweithio’n ddiflino i fynd i’r afael â’r pryderon niferus sydd wedi’u codi o’n cymunedau ar draws y sir gyfan.

“Byddwn yn parhau i weithio gyda’r holl aelodau etholedig, pob grŵp a chyngor cymuned er budd trigolion bwrdeistref sirol Wrecsam.”

‘Dibrisio democratiaeth’

Fodd bynnag, yn ôl y Cynghorydd Marc Jones, arweinydd grŵp Plaid Cymru, mae’r glymblaid yn “dibrisio democratiaeth”.

“Pleidleisiodd pobol Wrecsam am fwy o gynghorwyr Plaid a Llafur ddydd Iau ond mae’r ddwy blaid bellach wedi’u heithrio rhag gwneud penderfyniadau,” meddai.

“Tybed faint o bobol a bleidleisiodd yn annibynnol heb sylweddoli y byddent yn cynnal cyfundrefn Dorïaidd-annibynnol?

“Mae’n dibrisio democratiaeth pan mae cytundebau ystafell gefn yn cael eu gwneud gan bobol sydd â mwy o ddiddordeb mewn cadw grym na chynrychioli’r bobol.

“Bydd grŵp Plaid Cymru o naw cynghorydd yn llais cadarnhaol dros newid yn y cyngor a byddwn i gyd yn gweithio i’r cymunedau rydym yn eu cynrychioli.”