Mae Llinos Medi am barhau’n arweinydd Cyngor Ynys Môn yn dilyn yr etholiadau lleol.

Daw hyn ar ôl iddi gael ei hailethol yn unfrydol, yn ôl cyhoeddiad gan gangen leol y Blaid ar yr ynys.

Cafodd 21 o gynghorwyr o’r Blaid eu hethol ar draws yr ynys, saith yn fwy na 2017, ac mae 11 ohonyn nhw wedi’u hethol am y tro cyntaf.

Mae Llinos Medi yn un o saith merch sydd wedi’u hethol, ac mae hynny’n destun balchder iddi, meddai.

“Mae’n amlwg fod pobol Môn wedi cofleidio ein hymgyrch bositif ac wedi ymddiried yn yr ymgeiswyr penigamp oedd yn sefyll ar ran Plaid Cymru,” meddai mewn datganiad.

“Cawsom groeso cynnes ar garreg y drws ar hyd a lled Ynysoedd Môn a Chybi ac mae’n diolch ni yn fawr i bobol y sir am ganiatáu i ni allu parhau â’r gwaith da rydym wedi ei gychwyn ers 2017.

“Pan gefais fy ethol yn 2013, dim ond tair merch oedd ar y Cyngor ac roeddwn yn benderfynol o geisio sicrhau gwell cynrychiolaeth ymysg ein haelodau.

“Mae’r ffaith ein bod wedi mwy na dyblu’r nifer o ferched o fewn ein grŵp yn llenwi fy nghalon.

“Rydyn ni hefyd wedi gweld y Cynghorydd ieuengaf ar y Cyngor yn cael ei hethol yn enw Plaid Cymru.

“Ond gyda mwyafrif clir daw cyfrifoldeb amlwg.

“Mae’r gwaith caled o wireddu ein dyheadau yn cychwyn yn syth i bob un o’n Cynghorwyr.

“Ein haddewid i bobol Ynys Môn yw ein bod ni’n mynd i barhau i weithio yn galed ar eich rhan chi ac ar ran ein hynys.”