Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi y bydd o leiaf un porthladd rhydd yn dod i Gymru, gyda £26m o gyllid na fydd angen ei ad-dalu, a fydd ar gael ar gyfer unrhyw un sy’n cael ei sefydlu.
Mae’r ffigwr hwnnw yn cyfateb i’r hyn sy’n cael ei gynnig i borthladdoedd rhydd yn Lloegr.
Daw hyn yn dilyn “cryn drafod” rhwng Llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig.
Bydd gan Fae Caerdydd a San Steffan bwerau i wneud penderfyniadau ar unrhyw borthladd rhydd, yn dilyn cytundeb rhwng y ddwy lywodraeth.
Mae porthladdoedd rhydd yn galluogi mewnforio, creu ac allforio nwyddau heb orfod talu trethi mewnforio arferol oherwydd nad yw rheolau trethi a thollau arferol yn cael eu gweithredu ynddynt.
‘Cytundeb sy’n deg i Gymru’
Mae Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i “sicrhau cytundeb sy’n deg i Gymru”, yn ôl Vaughan Gething, Ysgrifennydd Economi Cymru.
“Yn dilyn cryn drafod rhwng ein llywodraethau, mae’n bleser gen i ddweud ein bod wedi llwyddo i gytuno â gweinidogion y Deyrnas Unedig ar sefydlu porthladdoedd rhydd yng Nghymru,” meddai.
“Rydyn ni wedi sicrhau cytundeb sy’n deg i Gymru, ac sy’n parchu cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru mewn meysydd polisi sydd wedi cael eu datganoli.
“Fodd bynnag, rydyn ni wedi’i wneud yn glir i Lywodraeth y Deyrnas Unedig mai dim ond os gellir dangos, gan ddefnyddio tystiolaeth a dadansoddiadau cadarn, y bydd yn cefnogi ein hagenda gwaith teg ac yn cyflawni manteision cynaliadwy ar gyfer Cymru yn y tymor hir, a gwerth am arian ar gyfer trethdalwyr Cymru, y bydd porthladd rhydd yn cael ei sefydlu.”
‘Cyfle anhygoel i Gaergybi’
Mae Virginia Crosbie, Aelod Seneddol Ynys Môn, yn awyddus i weld porthladd rhydd yn cael ei sefydlu yng Nghaergybi, gan ei ddisgrifio fel “cyfle anhygoel”.
“Mae’r llwybr yn glir i Gaergybi wneud cais i fod yn borthladd rhydd – rhywbeth rwyf wedi ymgyrchu drosto ers tro byd,” meddai.
“Mae busnesau ar yr ynys a thu hwnt am iddo ddigwydd, rwyf am iddo ddigwydd a dylai unrhyw un sydd am weld swyddi a buddsoddiad ar Ynys Môn ddymuno iddo ddigwydd hefyd.
“Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru o’r diwedd wedi rhoi’r gorau i lusgo ei sodlau ar y mater hwn, fe allwn symud ymlaen yn awr.
“Byddaf yn awr yn gweithio gyda busnesau, sefydliadau ac awdurdodau ar draws y gogledd i lunio’r cais gorau posibl.
“Mae hwn yn gyfle anhygoel i Gaergybi, ein hynys a’r ardal ehangach.”
‘Sicrhau tegwch’
Un arall fydd yn awyddus i weld porthladd rhydd yng Nghaergybi yw Rhun ap Iorwerth, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd ar yr ynys.
Dywed ei fod yn falch o weld Llywodraeth Cymru yn mynnu “tegwch i weithwyr”.
“Dwi’n falch bod cytundeb wedi ei gyflawni,” meddai.
“Roedd cynnig gwreiddiol Llywodraeth y Deyrnas Unedig i roi llawer llai o gyllid i borthladdoedd rhydd yng Nghymru yn gwbl annerbyniol, ac rwy’n falch o weld tro pedol ar hynny.
“Rydw i’n falch hefyd bod Llywodraeth Cymru yn mynnu – fel yr ydw i wedi ei wneud yn gyson – bod angen sicrhau tegwch i weithwyr a chyfrifoldeb amgylcheddol dan unrhyw gytundeb porthladd rhydd, ac elfen arall bwysig ydi bod Llywodraeth Cymru’n cael ei thrin yn bartner cyfartal.”