Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Nyrsys heddiw (dydd Iau, Mai 12), mae Prif Swyddog Nyrsio Cymru wedi cwrdd â rhai o’r nyrsys newydd o bob cwr o’r byd sydd wedi dod i weithio yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Mae nyrsys a gafodd eu hyfforddi’n rhyngwladol wedi bod yn rhan o’r Gwasanaeth Iechyd ers ei sefydlu yn 1948, ac maen nhw’n parhau i chwarae rhan hanfodol.

Mae disgwyl i fwy na 400 o nyrsys a gaiff eu recriwtio’n rhyngwladol ddod i weithio yng Nghymru eleni drwy raglen sy’n cael ei threfnu’n ganolog.

Mae Sue Tranka wedi bod yn ymuno â Phrif Swyddogion Nyrsio eraill y Deyrnas Unedig i lansio’r ymgyrch Yma am Fywyd, sy’n tynnu sylw at sgiliau, gwybodaeth a phroffesiynoldeb nyrsys a bydwragedd ac sydd hefyd yn ceisio denu mwy o bobol i ymuno a’r proffesiwn.

“Mae cadw, denu, recriwtio, datblygu a hyfforddi yn allweddol i sicrhau bod gennym y gweithlu nyrsio sydd ei angen arnom ar gyfer ein Gwasanaeth Iechyd,” meddai.

“Yn ogystal â recriwtio drwy ein hymgyrch farchnata Hyfforddi, Gweithio, Byw rydyn ni wedi sicrhau cynnydd o 69% yn nifer y lleoedd hyfforddi i nyrsys yng Nghymru dros y chwe blynedd diwethaf.

“Mae Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys yn gyfle i dynnu sylw at y gwaith gwych y mae nyrsys yn ei wneud bob dydd ar draws Cymru ac i ddangos y gall fod yn broffesiwn gwerth chweil.”

Cyfraniad pum nyrs yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan

Heddiw, cafodd y Prif Swyddog Nyrsio gyfle i gwrdd â phump o’r nyrsys rhyngwladol sydd newydd ymuno â Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan.

Roedd cwrdd â nhw yn eu hwythnos gyntaf yn brofiad arbennig i Sue Tranka, a ymunodd â’r Gwasanaeth Iechyd fel nyrs yn 1999 ar raglen ryngwladol debyg gan ymuno â’r tîm yn Ysbyty Brenhinol Sunderland.

“Roedd yn brofiad arbennig iawn cael cwrdd â’r nyrsys newydd heddiw, yn enwedig gan i minnau ymuno â’r Gwasanaeth Iechyd mewn ffordd debyg,” meddai.

“Rwy’n gwybod y byddan nhw’n llawn cyffro am eu cyfleoedd newydd, ac rwy’n dymuno’n dda iddyn nhw yn eu gyrfa a’u bywyd newydd yng Nghymru.

“Rwy’n gwybod o brofiad uniongyrchol y byddan nhw’n cael croeso ardderchog yng Ngwasanaeth Iechyd Cymru, gan fy mod innau wedi cael pob croeso ers ymuno fel Prif Swyddog Nyrsio y llynedd.”

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Phartneriaeth Cydwasanaethau Gwasanaeth Iechyd Cymru a Gwasanaeth Iechyd Cymru i roi’r rhaglen recriwtio ryngwladol hon ar waith.

Mae Gwasanaeth Iechyd Cymru wedi ymrwymo i gynnal safonau moesegol mewn recriwtio rhyngwladol, yn unol â chod ymarfer byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd.

Yma am Fywyd

Bydd Yma am Fywyd yn tynnu sylw at ymrwymiad rhyfeddol nyrsys a bydwragedd i’w proffesiynau – sy’n ymrwymiad gydol oes yn aml – yn ogystal ag edmygedd mawr y cyhoedd tuag atyn nhw.

Mae arolwg a gafodd ei gynnal yn ddiweddar yn dangos bod parch mawr i nyrsys a bydwragedd, ac mae COVID-19 wedi rhoi mwy o amlygrwydd nag erioed i’r byd nyrsio a bydwreigiaeth.

“Rwy’n falch iawn ein bod yn lansio Yma am Fywyd, gan fod nyrsys a bydwragedd yn chwarae rhan hanfodol mewn iechyd a gofal ac mae’n bwysig ein bod yn tynnu sylw at bopeth y maen nhw’n ei wneud,” meddai Sue Tranka wedyn.

“Fe wyddom fod nyrsys a bydwragedd yn uchel eu parch ond rydyn ni’n awyddus i sicrhau bod pobl yn deall y ddau broffesiwn yn llawn a bod y ddau’n cael y gydnabyddiaeth lawn y maent yn ei haeddu.

“Mae nyrsys a bydwragedd wedi chwarae rhan ganolog yn ystod y pandemig COVID-19 a’r rhaglen frechu. Mae hi wir yn fraint cael bod yn Brif Swyddog Nyrsio Cymru, gan weithio gyda nyrsys a bydwragedd bob dydd a gweld yn uniongyrchol y gofal a’r gefnogaeth anhygoel sy’n cael eu rhoi i bobl Cymru.”

Pwysigrwydd nyrsys

Tra bod arolwg o 2,000 o oedolion yn y Deyrnas Unedig yn dangos bod y rhan fwyaf o bobol yn edmygu nyrsys a bydwragedd, ac y byddai nifer o bobol yn ystyried bod yn nyrs neu fydwraig, ychydig iawn o bobol sy’n deall eu cyfrifoldebau’n llawn a’r cyfleoedd sydd ar gael o fewn y proffesiwn.

Nod yr ymgyrch Yma am Fywyd yw addysgu mwy o bobol am eu gwaith.

Yn ôl yr arolwg, mae nyrs yn cael ei ystyried yn un o’r swyddi pwysicaf yn y Deyrnas Unedig, ochr yn ochr â meddyg a diffoddwr tân.

Mae 89% o bobol yn edmygu nyrsys, a byddai 31% yn ystyried bod yn nyrs, a 26% yn ystyried bod yn fydwraig.

Ond dim ond 15% sy’n ystyried bod nyrsys yn gwneud penderfyniadau ynghylch diagnosis a thriniaeth, a dim ond 5% sy’n gwybod eu bod nhw’n ymchwilio i driniaethau a therapïau newydd.

Dim ond 53% sy’n gwybod fod modd i nyrs roi presgripsiwn am gyffuriau, a 37% ddim yn ymwybodol fod nyrsys yn arwain timau meddygol mewn meysydd eraill.

Mae 61% o’r farn fod bydwragedd yn cefnogi meddygon wrth eni babi, er mai nhw sy’n arwain ar y gwaith mewn 47.5% o achosion.

‘Talu teyrnged’

“Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Nyrsys, hoffwn dalu teyrnged unwaith eto i nyrsys ym mhob cwr o Gymru,” meddai Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru.

“Diolch iddyn nhw am bopeth y maen nhw wedi’i wneud yn ystod y pandemig, ac yn parhau i’w wneud wrth inni geisio adfer yn sgil COVID-19.

“Rwyf hefyd yn estyn croeso Cymreig cynnes i’r nyrsys sydd newydd eu recriwtio ac sy’n ymuno â Gwasanaeth Iechyd Cymru.

“Mae’n wych eu bod wedi dewis Cymru fel cartref newydd ac wedi dod i ofalu am bobl y wlad hon.

“Bydd mwy na 400 o nyrsys rhyngwladol sydd newydd gael eu recriwtio yn ymuno â ni eleni ac fe fyddan nhw’n chwarae rhan allweddol wrth i ni edrych tuag at y dyfodol ar ôl y pandemig.

“Mae recriwtio dramor yn un o amrywiaeth o gamau rydym yn eu cymryd i gefnogi’r gweithlu iechyd a gofal ledled Cymru wrth i ni ddelio ag effaith barhaus y pandemig.

“Rydyn ni hefyd wedi cyhoeddi’n ddiweddar ein bod yn estyn y fwrsariaeth ac mae’r Prif Swyddog Nyrsio wedi cyhoeddi ei blaenoriaethau a’i gweledigaeth gyfunol ar gyfer y proffesiynau, sy’n cynnwys cefnogi a chadw ein gweithlu yn ogystal â denu pobol i’r proffesiynau drwy ystod o lwybrau hyblyg.”