Mae Mark Drakeford wedi wfftio’r galwadau am adolygiad annibynnol o wasanaethau cymdeithasol plant yng Nghymru, er i arbenigwr ddweud bod yna “broblemau dwys” a bod y sefyllfa’n argyfwng.

Daeth y galwadau yn dilyn marwolaeth Logan Mwangi, bachgen bach pump oed o Sarn ger Pen-y-bont ar Ogwr, dan law ei fam, ei lystad ac unigolyn yn ei arddegau fis Gorffennaf y llynedd.

Roedd y gwasanaethau cymdeithasol yn ymwybodol o’r teulu, ond cafodd Logan ei dynnu oddi ar y Gofrestr Gwarchod Plant fis cyn ei farwolaeth.

Yn ôl yr Athro Donald Forrester o Brifysgol Caerdydd, fe fu “cryn nifer” o farwolaethau plant oedd o dan y gwasanaethau cymdeithasol ar draws y wlad, ac mae e wedi bod yn galw am adolygiad annibynnol, yn debyg i’r hyn sydd ar y gweill yng ngweddill y Deyrnas Unedig.

“Yn rhannol oherwydd yn ystod y pandemig, doedd gweithwyr cymdeithasol ddim yn gallu ymweld a chyfarfod â phlant yn y ffordd y bydden nhw fel arfer,” meddai Mark Drakeford wrth orsaf radio LBC.

“Nawr, maen nhw’n gorfod gwneud yn iawn am ôl-groniad o waith nad oedden nhw wedi gallu ei gwblhau yn y ffordd arferol.

“Dw i ddim yn credu bod angen ymchwiliad arnom i ddweud hynny.”

“Anghofio” am grŵp bregus

“Dw i ddim yn gwybod pam nad yw’r Llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd yn credu nad oes angen adolygiad annibynnol o wasanaethau plant yng Nghymru,” meddai Gareth Davies, llefarydd gwasanaethau cymdeithasol y Ceidwadwyr Cymreig.

“Mae tair cenedl arall y Deyrnas Unedig yn cynnal un ar hyn o bryd, ac mae gan Gymru y gyfradd waethaf o ran plant sy’n derbyn gofal.

“Mae’r grŵp bregus hwn a’r bobol sy’n gofalu amdanyn nhw wedi cael eu hanghofio am yn rhy hir, ac wedi’u gadael yn fwy ynysig nag erioed oherwydd y pandemig.

“O gofio pa mor angerddol yw’r Dirprwy Weinidog dros wasanaethau plant, rwy’n siŵr y byddai hi’n dymuno sicrhau eu bod nhw yn y cyflwr gorau posib.

“Felly rwy’n annog y Llywodraeth Lafur i orchymyn yr adolygiad annibynnol hwnnw.”

‘Annerbyniol’

Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru hefyd wedi beirniadu’r penderfyniad.

Bu Jane Dodds yn weithiwr cymdeithasol ym maes gwarchod plant am 27 o flynyddoedd, ac mae hi’n dweud bod y system dan bwysau ers blynyddoedd lawer.

“Dydy hi ddim yn dderbyniol fod y Prif Weinidog wedi gwrthod y galwadau am adolygiad annibynnol i waith cymdeithasol plant,” meddai.

“Mae gwaith cymdeithasol plant yng Nghymru wedi bod dan bwysau ers nifer o flynyddoedd bellach, a thra bod y Prif Weinidog yn nodi ’na ddylen ni symud i ymateb cyffredinol ar sail un digwyddiad unigol’, dylai adolygiad fod yn gyfle i ddysgu a chefnogi gweithwyr cymdeithasol a phlant a theuluoedd.

“Mae adolygiadau eisoes ar y gweill yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod gwasanaethau yng Nghymru hefyd yn cael eu cadw dan adolygiad fel y gall Cymru fod ar flaen y gad o ran arfer dda.”