Bydd noson ffilmiau a blasu jin yn cael ei chynnal yn rhan o Ŵyl Ffilmiau Bae Caerfyrddin nos Fawrth (Mai 17).
Mae’r digwyddiad yn rhan o’r ŵyl pedwar diwrnod sy’n cael ei chynnal yn Theatr y Ffwrnes yn Llanelli rhwng Mai 16-19.
Wedi’i chydnabod fel prif ŵyl ffilmiau Cymru, mae’r ŵyl bellach yn derbyn dros 1,000 o gyflwyniadau gan wneuthurwyr ffilm ar draws y byd.
Fe fydd y ffilmiau yng ngofal y gwylwyr ar y noson wrth iddyn nhw benderfynu pa ffilmiau rhyngweithiol sy’n cael eu dangos.
Fel rhan o’r digwyddiad, bydd y rhai sy’n mynychu hefyd yn cael mwynhau jin o ddistyllfa In The Welsh Wind, sydd wedi ennill gwobrau.
Mae’r cwmni, sydd wedi’i leoli ger Aberteifi, hefyd yn noddi’r categori ffilm fawreddog, gyda’r wobr wedi’i chyflwyno gan gyd-sylfaenydd a chyfarwyddwr y ddistyllfa, Elen Wakelam, yn y cinio gwobrwyo ar Fai 19.
Jin a ffilmiau
“Mae gan jin hanes gwych gyda’r ffilmiau. Boed yn Martinis sych James Bond, Marilyn Monroe yn yfed Manhattans yn Some Like it Hot neu glasur o linell Humphrey Bogart yn Casablanca,” meddai Elen Wakelam.
“Gyda chysylltiad mor gryf, mae noddi Gŵyl Ffilmiau Bae Caerfyrddin a dod â jin i’r ffilmiau yn ymddangos yn bartneriaeth berffaith.
“Rydym yn edrych ymlaen at fod yn rhan o’r noson ffilm ryngweithiol, sy’n swnio fel noson ddifyr a diddorol iawn, ac wrth gwrs y gwobrau.
“Hoffem ddymuno’r gorau i bawb sy’n ymwneud â’r ŵyl a’r holl wneuthurwyr ffilm ar gyfer digwyddiad llwyddiannus.”
Yn ôl Kelvin Guy, prif weithredwr yr ŵyl, maen nhw’n falch iawn o’u gwreiddiau Cymreig.
“Felly rydyn ni’n falch iawn o allu gweithio gyda brandiau Cymreig lleol a’u cefnogi a’u hannog i gymryd rhan yn yr ŵyl a gwneud ffilmiau yma yng Nghymru,” meddai.
“Rydym yn gyffrous i fod yn gweithio gydag In The Welsh Wind ac yn edrych ymlaen at gryfhau ein cydweithrediad parhaus ac yn dyfodol.”