Mae Te Whare Wānanga o Waitaha (Prifysgol Canterbury) yn Seland Newydd wedi creu cymhwyster newydd yn y gobaith o sicrhau mwy o athrawon blynyddoedd cynnar ac oedran cynradd i ddysgu plant am ddiwylliant y Māori.

Bydd y cwrs gradd Ako (Baglor Dysgu ac Addysgu) yn cynnig cymhwyster mewn mātauranga Māori (gwybodaeth am y Māori).

Mae disgwyl i’r rhaglen newydd fynd i’r afael â’r prinder athrawon sy’n medru iaith reo Māori, a rhoi gwybodaeth i athrawon newydd am straeon a hanes lleol o fewn cymuned Waitaha Canterbury.

Yn ôl pob tebyg, mae’r sefyllfa’n waeth ar ynys y de nag ar ynys y gogledd, a bydd unrhyw athrawon sy’n ennill y cymhwyster yn gallu dysgu mewn ysgolion Māori neu Saesneg.

Ar hyn o bryd, prin yw’r bobol sy’n dysgu trwy gyfrwng yr iaith sydd â chymhwyster i wneud hynny a bydd y drefn newydd yn galluogi’r athrawon hynny i aros yn eu swyddi wrth iddyn nhw astudio ar gyfer y cymhwyster hwnnw, a bydd eu profiad dysgu’n cyfri tuag at waith maes y cwrs.

Bydd pob ymgeisydd ar gyfer y cwrs yn cael hui (cyfarfod), ac yn cael mynd â’u whānau (teulu) gyda nhw, a bydd cyfle i drafod cymhwyster sydd wedi’i deilwra ar gyfer eu hanghenion a’u hamgylchiadau personol, gyda rhai yn dewis canolbwyntio ar wella’u sgiliau iaith ac eraill yn dilyn y trywydd diwylliannol os ydyn nhw eisoes yn ddigon rhugl yn yr iaith.

Yn ôl arbenigwyr, bydd y cwrs yn cael ei ddysgu mewn ffordd sy’n plethu diwylliannau Seland Newydd mewn cymunedau sy’n ddwyieithog.

Bydd un o dair ffrwd y cwrs yn rhoi sylw i hanes, diwylliant lleol, calendr ac amgylchfyd y Māori, a bydd blwyddyn ola’r cwrs yn cael ei ddysgu bron yn llwyr drwy gyfrwng yr iaith frodorol fel rhan o gynllun trochi ieithyddol, tra bydd y ddwy flynedd gynta’n ddwyieithog.

Bydd y cwrs yn cael ei lansio yn 2023, a bydd modd astudio’n llawn amser neu’n rhan amser, gydag elfennau o’r cwrs yn cael eu dysgu o bell, a bydd elfen ohono ar gael ar-lein a’r cyfle i fynd i fyw mewn cymuned frodorol.