Ydych chi’n dysgu Cymraeg ar hyn o bryd? Ydy’n anodd i chi ymarfer siarad yr iaith gyda phobl eraill?

Dyma oedd y broblem oedd gan Lewis Campbell. Mae o’n fyfyriwr ymchwil o Gwm Rhondda. Mae’n 26 oed. Mae o wedi bod yn dysgu Cymraeg ers 2014. Mae o’n gwneud gradd ymchwil PhD yn yr adran Gyfrifiadureg ym Mhrifysgol Bangor. Mae Lewis yn datblygu’r ap fel rhan o’i radd PhD. Cyn hynny roedd o wedi gwneud gradd Meistr mewn Peirianneg Meddalwedd.

Rŵan mae o eisiau defnyddio’r dechnoleg deallusrwydd artiffisial (AI) i helpu dysgwyr ymarfer yr iaith. Mae Lewis yn dysgu Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin, sy’n cael ei gynnal gan y brifysgol ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae Lingo newydd wedi bod yn holi Lewis am yr ap.


Lewis, pam dych chi eisiau creu’r ap?

Dw i wedi bod yn dysgu Cymraeg ers rhai blynyddoedd nawr. Ond dw i ddim yn teimlo’n hyderus iawn yn defnyddio’r Gymraeg pan dw i’n siarad efo pobol sydd ddim yn gwybod fy mod i’n dysgu. Does dim digon o hyder gyda fi i ddefnyddio’r Gymraeg mewn siop er enghraifft. Dw i ddim yn cael llawer o gyfle i ymarfer fy Nghymraeg y tu allan i’r gwersi neu siarad gyda ffrindiau sy’n rhugl. Hefyd dwi’n credu bod gen i ofn dweud pethau’n anghywir, a theimlo embaras. Roeddwn i’n meddwl byddai’r ap yn helpu i ymarfer sgyrsiau bob dydd, fel mynd i’r siop i brynu wyau neu gael sgwrs efo rhywun mewn caffi.

Felly sut mae’r ap yn gallu helpu dysgwyr?

Y syniad ydy bod dysgwyr Cymraeg yn gallu ymarfer y gwaith maen nhw wedi’i ddysgu drwy ddefnyddio’r ap. Bydd yr ap yn gallu ‘ateb’ y defnyddiwr. Bydd yn gallu defnyddio deallusrwydd artiffisial i roi help gydag ynganiad neu roi gwybod am unrhyw gamgymeriadau.

Mae’r ap dal yn y broses o gael ei ddatblygu a dw i ddim yn siŵr pryd fydd yn barod ond dw i’n gobeithio efallai mewn dwy flynedd. Bydden i wrth fy modd yn gallu gwneud hyn llawn amser ond dyw hynny ddim yn bosib ar hyn o bryd, achos dw i’n gweithio rhan amser hefyd. Mae dipyn o waith i wneud ar yr ap eto ond mae wedi bod yn lot o hwyl hyd yn hyn.

Pam oeddech chi wedi penderfynu dysgu Cymraeg?

Ges i fy magu ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac fe wnes i gwrs TGAU Cymraeg yn yr ysgol. Ond wnes i ddim dod ymlaen yn rhy dda efo hynny. Doeddwn i ddim yn hoffi’r iaith o gwbl pan oeddwn i’n tyfu lan. Pan dw i’n edrych yn ôl nawr, dw i’n sylweddoli byddai wedi bod yn dda iawn gwybod sut i siarad Cymraeg. Roeddwn i’n teimlo bod yr iaith yn cael ei gwthio arnoch chi. Ond dw i’n difaru fy mod i heb gymryd yr iaith o ddifri pan oeddwn i’n tyfu lan. Bydden i’n dweud wrth unrhyw un sydd yn yr ysgol nawr am ddal ati achos mae’n anhygoel pan dych chi’n gallu siarad yr iaith.

Ond trwy ddamwain oeddech chi wedi mynd ati i ddysgu Cymraeg fel oedolyn…

Ie, dw i’n chwarae lot o gemau ar-lein gyda ffrindiau o’r Iseldiroedd. Ro’n i eisiau gallu siarad efo nhw felly wnes i fynd ar ap Duolingo i drio dysgu Iseldireg. Roedden nhw wedi rhyddhau cwrs Cymraeg a wnes i feddwl bysa’n syniad da i ddysgu’r iaith. A dw i wedi syrthio mewn cariad gyda’r Gymraeg nawr. Dw i wedi defnyddio ap SaySomethinginWelsh hefyd ac wedi bod ar gwrs Dysgu Cymraeg yn yr haf llynedd. Wnes i ddechrau gyda chwrs haf ‘Mynediad’ i ddechreuwyr ac roedd hynny wedi gwella fy sgiliau yn anhygoel. Nawr dw i’n gwneud cwrs ‘Sylfaen’ bob wythnos. Mae’r gyfres o lyfrau i ddysgwyr Amdani yn dda iawn hefyd. Dw i’n teimlo bod angen ap adnabod lleferydd fel yr un dw i’n creu. Os ydy pobol yn dysgu’r iaith ond ddim yn gallu ymarfer gyda siaradwyr rhugl, byddai gallu ymarfer gyda’r ap yn berffaith, a chael adborth am y ffordd dych chi’n siarad.

Beth ydy’r pethau anoddaf am ddysgu’r iaith i chi?

Dwi’n cael trafferth efo’r wyddor a dw i dal ddim yn gallu rowlio’r ‘r’ sy’n rhwystredig iawn!

Geirfa

Deallusrwydd artiffisial (AI) – artificial intelligence

Ymarfer – practice

Myfyriwr ymchwil – research student

Peirianneg Meddalwedd – software Engineering

Ynganiad – pronunciation

Difaru – regret

Iseldireg – Dutch

Adnabod lleferydd – speech recognition

Y wyddor – alphabet