Roedd yna gynnwrf yn yr aer heno (nos Wener, Mai 13) o gwmpas y South o’ France, yr enw yn lleol ar y rhodfa braf ger waliau’r castell ar lan y Fenai yng Nghaernarfon.

Roedd yno lori fach yn rhoi’r stondinau olaf yn eu lle, a sawl un mewn siaced hi-viz yn sefyllian o gwmpas yn cadw llygad ar y gwaith. Mae rhes hirfaith o stondinau eisoes yn ei lle o flaen y Spar ar y Maes, a’r hogia tu allan i dafarn y Castell yn yfed gyda’u teidiau, yn edrych ymlaen at hwyl yr ŵyl.

Mae’r cyfan yn barod at Ŵyl Fwyd fawr Caernarfon, sy’n digwydd ar y Maes a chyrion y castell, yfory.

Mae yna dipyn o gyffro wrth reswm eleni, am mai dyma’r Wyl Fwyd gyntaf ers tair blynedd. Yn y dyddiau cyn Covid, byddai pobol yn heidio i’r dref yn eu miloedd ar gyfer yr ŵyl – a brofodd yn llwyddiannus reit o’r un cyntaf un ym mis Mai 2016. Mae pob busnes a bwyty yn barod amdani.

Yn ogystal â’r myrdd stondinau, a chrefftau a digwyddiadau i blant, bydd grwpiau poblogaidd fel Bwncath a Papur Wal yn perfformio ar Lwyfan Rondo, a chorau’r ardal yn perfformio ar Lwyfan Cwmni Da ar y Maes. Mae llwyfan newydd eleni – Llwyfan La Marina Cei – ger adeiladau crand newydd Cei Llechi ar Ffordd Sant Helen, lle bydd Beth Celyn, Phil Gas, Gwilym Bowen Rhys ac eraill yn perfformio.

Bydd y Lloc Anifeiliaid yn ei ôl, gyferbyn â’r orsaf. A bydd stondin Teganau Tina i ddiddanu’r rhai bach.

Rhywbeth i bawb felly.

Gŵyl Fwyd Caernarfon, 2019

Gŵyl Fwyd Caernarfon yn disgwyl torfeydd mawr ar ôl dwy flynedd ffwrdd

Elin Wyn Owen

Mae’r ŵyl a gychwynnodd yn 2016 yn cael ei threfnu gan griw o wirfoddolwyr, ac maen nhw’n disgwyl dros 30,000 o ymwelwyr eleni