Mae dros draean o bobol Cymru yn credu y dylai gwledydd cyfoethog y byd helpu’r gwledydd tlawd sy’n cael eu heffeithio gan sychder, yn ôl pôl piniwn newydd.
Yn ôl y pôl, a gafodd ei gyhoeddi gan Savanta ar ran Cymorth Cristnogol, mae bron i hanner poblogaeth Cymru (45%) yn bryderus am effaith sychder ar bobol yn y Deyrnas Unedig hefyd.
Mae’r adroddiad newydd gan Cymorth Cristnogol yn rhybuddio y gallai’r argyfwng hinsawdd olygu fod dinasoedd yn rhedeg allan o ddŵr.
Heb weithredu i dorri allyriadau carbon a sicrhau rheolaeth well dros ddŵr yfed, mae Cymorth Cristnogol yn rhybuddio mai’r tlotaf fydd yn teimlo’r effaith fwyaf, ac maen nhw’n galw am sefydlu cronfa ryngwladol i dalu am golledion a difrod sy’n cael ei achosi gan newid hinsawdd.
Mae dadansoddiad Cymorth Cristnogol yn dangos bod y defnydd o ddŵr wedi cynyddu mwy na dwywaith y radd y mae’r boblogaeth wedi tyfu yn ystod yr ugeinfed ganrif.
Roedd yr adroddiad, ‘Scorched Earth: The impact of drought on 10 world cities‘, yn edrych ar ddeg dinas, gan gynnwys Harare yn Zimbabwe, Llundain, Sydney yn Awstralia, a Phoenix, Arizona.
Mae pennaeth Asiantaeth yr Amgylchedd Lloegr eisoes wedi rhybuddio y gallai Llundain a de-ddwyrain Lloegr redeg allan o ddŵr o fewn 25 mlynedd.
Yn ôl yr amcangyfrifon, byddai cost economaidd sychder drwg yn Llundain oddeutu £330m y diwrnod.
‘Cymryd cyfrifoldeb’
Cafodd pôl piniwn ei gyhoeddi ochr yn ochr â’r adroddiad, ac mae’n dangos bod 60% o bobol Cymru’n gallu gweld cysylltiad rhwng eu gweithredoedd eu hunain a sychder, er bod llai na 30% yn cael eu sbarduno i weithredu o weld y cysylltiad.
“Er nad yw prinder dŵr yn broblem fawr yng Nghymru ar hyn o bryd, mae’n dda gweld fod gan bobol Cymru ddealltwriaeth am y cyswllt sydd rhwng eu gweithredoedd eu hunain a sychder,” meddai Mari McNeill, Pennaeth Cymorth Cristnogol yng Nghymru.
“Ar gychwyn Wythnos Cymorth Cristnogol, mae hefyd yn dda gweld fod nifer dda yn deall y pwysigrwydd fod gwledydd cyfoethog yn cymryd cyfrifoldeb am sychder mewn gwledydd tlawd.
“Mae’r angen am gronfa i liniaru colledion a difrod a achosir gan yr argyfwng hinsawdd yn fawr ac rydym yn galw ar lywodraeth Prydain i arwain ar y llwyfan rhyngwladol i greu cronfa o’r fath.”
‘Perygl go iawn’
Heb weithredu i drin allyriadau a rheolaeth well dros ddŵr ffres, mae Cymorth Cristnogol yn rhybuddio y bydd effaith mawr ar bobol dlawd dros y byd.
Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, mae preswylwyr incwm isel dinasoedd yn talu hyd at 50 gwaith mwy am litr o ddŵr na’u cymdogion cyfoethocach oherwydd eu bod yn aml yn gorfod prynu gan werthwyr preifat.
“Er nad yw sychder yn newydd mae ei ddwyster a’i amlder wedi cynyddu dros y deg mlynedd ar hugain diwethaf oherwydd cynhesu byd eang,” meddai Rahman Chowdhury o Cymorth Cristnogol a chyd-awdur yr adroddiad.
“Mae’n berygl go iawn; mae’n bygwth bywydau a bywoliaethau rhai o bobl dlotaf y byd. Dyma gymunedau sy wedi gwneud y lleiaf i achosi’r argyfwng hinsawdd.
“Dyma realiti colled a difrod. Er mwyn mynd i’r afael â’r anghyfiawnder hwn, nid yn unig y mae angen inni dorri allyriadau, rhaid inni hefyd gynnig cymorth ariannol i gefnogi’r rhai na all addasu i’r colledion.
“Dyna pam ein bod yn galw ar greu cronfa colled a difrod yn uwch gynhadledd yr hinsawdd yn yr Aifft yn hwyrach ymlaen eleni.”