Mae Mark Drakeford wedi ysgrifennu at Boris Johnson yn ei annog i beidio dadwneud rhannau o Brotocol Gogledd Iwerddon.
Byddai gwneud hynny’n niweidio economi Cymru yn y pendraw, meddai Prif Weinidog Cymru wrth ofyn i Brif Weinidog y Deyrnas Unedig barhau i drafod gyda’r Undeb Ewropeaidd a’r llywodraethau datganoledig.
Mae Boris Johnson wedi bygwth dadwneud rhannau o’r Protoctol, er bod yr Undeb Ewropeaidd wedi dweud y gallen nhw gyflwyno sancsiynau masnachol petaen nhw’n gwneud hynny.
Mewn llythyr at Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, dywedodd Mark Drakeford y byddai hepgor y Protocol yn “bygwth economi Prydain” ac yn “tanseilio enw da Prydain yn rhyngwladol”.
“Mae adroddiadau eang bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn paratoi deddfwriaeth i ddadwneud rhannau o Brotocol Gogledd Iwerddon,” meddai Mark Drakeford.
“Byddai gweithredu fel hyn, dw i’n credu, yn bygwth gwneud difrod real i economi Prydain, ac, o ystyried bod y Protocol yn rhan o gytundeb rhyngwladol y mae’n rhaid cadw ato a gafodd ei arwyddo a’i gytuno arno gennych chi, byddai’n tanseilio enw da Prydain yn rhyngwladol.
“Ynghyd â hynny, gan y byddai unrhyw weithredu o’r fath yn effeithio pob rhan o’r Deyrnas Unedig mae yna achos amlwg dros drafod gyda holl lywodraethau’r Deyrnas Unedig er mwyn ystyried y mater.
“O ran Cymru’n benodol, mae gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb penodol mewn unrhyw fater sy’n effeithio’r ffordd mae nwyddau’n teithio rhwng Prydain Fawr ac ynys Iwerddon, o ystyried pwysigrwydd strategol ein porthladdoedd sy’n wynebu’r gorllewin, yn enwedig Caergybi, ac mewn materion a allai effeithio busnesau Cymru’n ehangach.”
Y protocol
Wrth geisio dod i gytundeb wedi Brexit, roedd y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd yn cytuno bod rhaid amddiffyn cytundeb heddwch Gogledd Iwerddon – Cytundeb Dydd Gwener y Groglith.
Yn sgil hynny, fe wnaethon nhw gytuno i gynnwys Protocol Gogledd Iwerddon fel rhan o’r cytundeb Brexit.
Mae’r protocol yn golygu bod gwiriadau ar nwyddau yn cael eu gwneud rhwng Gogledd Iwerddon a gwledydd Prydain, yn hytrach na rhwng Gogledd Iwerddon ac Iwerddon.
Ond mae’r protocol wedi arwain at anfodlonrwydd ymysg unoliaethwyr Gogledd Iwerddon, sydd eisiau gweld y chwe sir yn parhau i fod yn rhan o’r Deyrnas Unedig.
Maen nhw’n dadlau bod gwneud gwiriadau rhwng Gogledd Iwerddon a Chymru, Lloegr a’r Alban yn tanseilio lle Gogledd Iwerddon yn y Deyrnas Unedig, ac mae plaid unoliaethol y DUP yn gwrthod cymryd rhan yn llywodraeth Gogledd Iwerddon nes bod y materion eu pryderon yn cael eu datrys.
“Mae’n rhaid i barchu a diogelu Cytundeb Dydd Gwener y Groglith fod yn flaenoriaeth yn y trafodaethau am ddyfodol y Protocol, a gall y materion– a dw i’n deall eu bod nhw’n gymhleth ac yn sensitif – ond gael eu datrys drwy gyfathrebu,” meddai Mark Drakeford yn ei lythyr.
“Dw i’n eich annog i beidio â gweithredu’n unfrydol, ond i barhau i gyfathrebu gyda’r Undeb Ewropeaidd.
“Yn ogystal, mae hi’n angenrheidiol bod y safbwynt presennol yn cael ei drafod â’r Llywodraethau Datganoledig.”
‘Diogelu’r Deyrnas Unedig’
Wrth ymateb i sylwadau Mark Drakeford, mae James Evans, yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Frycheiniog a Maesyfed, wedi gofyn iddo “ganolbwyntio ar ei waith o ddydd i ddydd”.
“Mae yna ddiffygion ym Mhrotocol Gogledd Iwerddon, ac mae hi’n iawn fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn trio eu datrys er mwyn sicrhau bod busnesau yn cael mynediad iawn ar ddwy ochr y ffin,” meddai.
“Mae’n rhaid i’r Deyrnas Unedig gael ei diogelu a’i gwarchod.
“Plis canolbwyntiwch ar eich gwaith o ddydd i ddydd, Brif Weinidog.”