Mae Cumann Uí Chléirigh o fudiad Conradh na Gaeilge, sy’n defnyddio’r handlen @BrooklynGaelic ar Twitter, yn dweud bod “casineb at yr iaith Wyddeleg yn ‘chwiban y ci’ sectyddol”.

Daw ei sylwadau wrth ymateb i neges ar y dudalen Facebook ‘Ulster-Scots’ / Americans, sef darn o erthygl yn tynnu sylw at brotestiadau yn erbyn yr iaith Ffrangeg, iaith y lleiafrif ym Montreal yng Nghanada, dros y penwythnos.

Mae’r neges yn dweud bod y strydoedd “yn gorlifo â phrotestwyr” yn erbyn Bil 96, sef cyfraith arfaethedig Llywodraeth Quebec i ddiwygio’u Siarter Ffrangeg a fyddai’n cryfhau’r Ffrangeg, ond dydy’r mwyafrif Saesneg ddim eisiau i’r Ffrangeg gael ei chryfhau.

“Wedi’i threfnu gan grwpiau sy’n cynrychioli cymuned Saesneg y dalaith, diben y brotest oedd anfon neges gref at y llywodraeth fwyafrifol fod y ddeddfwriaeth fel ag y mae hi’n annerbyniol,” meddai’r neges ar y dudalen Facebook.

“Rydyn ni’n caru Ffrangeg ac yn ei chefnogi, ac rydyn ni eisiau ei gweld hi’n cael ei hybu a’i gwarchod, ond nid ar ein cefnau ni, ar gefn ein hawliau sylfaenol.”

Deddfwriaeth arfaethedig

Cafodd y ddeddfwriaeth arfaethedig ei chyflwyno flwyddyn yn ôl, ac mae disgwyl pleidlais yn y Cynulliad Cenedlaethol yn ddiweddarach y mis yma.

Ei nod yw “cryfhau’r Ffrangeg ym mhob pau yn y gymdeithas”, gan ddiwygio Siarter Ffrangeg 1977.

Ymhlith y newidiadau i’r Siarter sy’n cael eu cynnig mae cynnwys gofyniad i bobol sy’n cyrraedd Quebec o’r newydd dderbyn gwasanaethau’r llywodraeth yn uniaith Ffrangeg ar ôl bod yn y dalaith am chwe mis, ond mae nifer yn dweud bod yr amserlen yn afrealistig er mwyn dysgu iaith newydd.

Hefyd, byddai gofyn i fyfyrwyr mewn colegau galwedigaethol ddilyn tri chwrs ychwanegol trwy gyfrwng y Ffrangeg heb eithriad.

“Gwarchodwch Ffrangeg, ond nid ar draul hawliau Saesneg” oedd un o’r negeseuon ar blacardiau yn y brotest ym Montreal.

Mae tudalen Facebook ‘Ulster-Scots / Americans’ wedi ymateb yn chwyrn.

“Nid iaith na ieithyddiaeth yw Deddfau Iaith,” meddai’r grŵp.

“Ceffylau pren Caerdroea ydyn nhw lle gall chwyldrowyr godi i gipio rheolaeth ddeddfwriaethol, cymdeithasol”.