Mae gan Gymru’r gallu i berfformio gyda’r gorau fel gwlad amaethyddol, meddai darlithydd mewn amaeth wrth golwg360.

Byddai annibyniaeth yn golygu bod gan Gymru’r gallu i wneud penderfyniadau “gwell fyddai’n siwtio amaeth”, yn ôl Cennydd Owen Jones.

Mae amaeth yn fater sydd wedi’i ddatganoli i Gymru, ac mae’r penderfyniadau sydd wedi cael eu gwneud gan y Senedd yn dangos “ein bod ni’n gallu gwneud penderfyniadau ein hunain”, meddai.

Bydd Cennydd Owen Jones, sy’n darlithio ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn siarad mewn noson sydd wedi’i threfnu gan YesCymru ar amaeth ac annibyniaeth yn Llanbedr Pont Steffan heno (nos Fawrth, Mai 17).

Fel rhan o’r noson yng Nghlwb Rygbi Llanbed, bydd Cennydd Owen Jones a Morys Ioan, Cadeirydd Undeb Amaethwyr Cymru Ceredigion, yn ystyried ‘Amaethyddiaeth gynhaliol: A all Cymru fwydo Cymru?’.

Arloesedd amaethyddiaeth fydd prif ffocws sgwrs Cennydd Owen Jones.

“Un peth sy’n bwysig ei gofio pan rydyn ni’n siarad ambyti unrhyw fath o annibyniaeth o ran Cymru, dydyn ni ddim yn cut all ties – byddan ni dal i allu delio a masnachu gyda Lloegr a’r Alban,” meddai wrth golwg360.

“Jyst mater o allu gwneud penderfyniadau gwell ein hunain o ran hynny.

“Mae yna rai pethau licien ni gael ychydig bach mwy o control drosto o ran y pethau sy’n cael effaith ar amaeth.

“Mae sôn wedi bod am y cytundebau masnach yn y newyddion, mae’r rheiny’n mynd i gael effaith mawr ar amaeth yng Nghymru – Cytundeb Masnach gydag Awstralia.

“Petai Cymru’n wlad annibynnol bydden ni’n gallu gwneud penderfyniadau gwell fyddai’n siwtio amaeth.

“Byddai amaeth yn chwarae rhan bwysicach i Gymru nag y mae ar hyn o bryd ar lefel y Deyrnas Gyfunol.”

Newid hinsawdd a hunangynhaliaeth

Mae arloesedd ac ymateb i newid hinsawdd yn her i amaeth yng Nghymru boed hi’n annibynnol ai peidio, esbonia Cennydd Owen Jones wedyn.

“Gyda newid hinsawdd, gyda shwt mae’r farchnad yn newid, mae gofyn i ffermwyr feddwl mwy tu fas i’r bocs ynglŷn â shwt maen nhw’n ffarmio a beth maen nhw’n ffarmio,” meddai.

“Tywydd eithafol yng Nghymru o ran sychder, llifogydd ac yn y blaen. Ond ar lefel tu hwnt i hwnna wedyn, mae e’n anferthol. Adia di at newid hinsawdd, pethau fel y tensiynau sy’n digwydd o ran y rhyfel yn Wcráin a Rwsia, pandemig… mae’r holl bethau hyn yn cael effaith mawr ar gostau’r fferm.

“Ond dw i’n credu bod hwnna’n rhywbeth y gallen ni ei daclo dipyn gwell os fydden ni’n wlad annibynnol a bydden ni’n gallu teilwra’r gefnogaeth yna i’r diwydiant os fysan ni’n gallu gwneud y penderfyniadau i gyd yma yng Nghymru.

“Mae pris dwysfwyd wedi codi drwy’r to’n ddiweddar, yn ogystal â gwrtaith. Mae hwnna jyst yn pwysleisio i ni yng Nghymru wneud y mwyaf o beth sydd gyda ni.

“Rydyn ni’n sôn am fod yn hunangynhaliol fel gwlad yn aml o ran ein bwyd ni, a dw i’n credu bod hi’n bwysig bod ffermwyr ar lefel meicro yn hunangynhaliol eu hunain.

“Os fyswn i’n gallu adeiladu model amaeth delfrydol yng Nghymru, yn fy marn i y ffordd gorau fyddai’i gwneud hi fel bod cymaint o ffermydd â phosib yn hunangynhaliol a’u bod nhw ddim yn gorfod prynu dwysfwyd na phrynu gymaint o wrtaith â maen nhw ar hyn o bryd.

“Ein bod ni’n gallu gwneud y mwyaf o systemau pori, a gwneud y mwyaf o dyfu cnydau gwahanol sy’n uchel mewn protein ac egni i fwydo’r anifeiliaid.

“Dw i’n credu y bydden ni’n gallu gwneud system real gwydn yma yng Nghymru wedyn.”

Ar hyn o bryd, mae ambell fferm yng Nghymru yn tyfu cnydau o feillion coch gan eu bod nhw’n uchel mewn protein. Mae defaid a gwartheg yn pori arnyn nhw, ac yn gallu gwneud y defnydd gorau o’r protein.

‘Perfformio gyda’r gorau’

Mae gan Gymru’r gallu i berfformio gyda’r gorau yn y byd ar y llwyfan amaethyddol, yn ôl Cennydd Owen Jones.

“Pan rydyn ni’n edrych ar systemau amaethyddol, mae Seland Newydd lan yna gyda’r gorau. Dyw Cymru ddim lot tu ôl Seland Newydd o ran poblogaeth, ddim lot ar ôl Seland Newydd o ran yr hinsawdd na’r bobol sydd ynddi,” meddai.

“Dyna be’ maen nhw wedi gwneud yn Seland Newydd, ac yn Iwerddon hefyd, sylwi eu bod nhw’n gallu tyfu porfa, pob math o borthiant yn dda, a gwneud y mwyaf allan o’r porthiant yna.”