Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adolygiad annibynnol o lifogydd ledled Cymru yn ystod gaeaf 2020-21.

Yr Athro Elwen Evans, un o fargyfreithwyr amlycaf Cymru a’r Deyrnas Unedig, fydd yn arwain yr adolygiad annibynnol er mwyn sicrhau bod Cymru’n dysgu gwersi o’r gorffennol ac yn sicrhau arfer dda ar gyfer y dyfodol.

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn buddsoddiad o £214m mewn dulliau atal llifogydd fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru, a fydd yn gwarchod o leiaf 45,000 o gartrefi ac yn cefnogi’r awdurdodau, yn cyflymu’r broses o gyflwyno cynlluniau atal llifogydd ac yn adeiladu gwytnwch y system wrth i newid hinsawdd fynd rhagddo.

Daw’r adolygiad fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio, ac fe fydd yn ystyried tystiolaeth awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru, yn ogystal ag adroddiadau perthnasol eraill.

Ers Storm Dennis fis Chwefror 2020, mae Cymru wedi gweld cynnydd mewn cyfnod byr iawn yn amlder llifogydd sydd wedi digwydd yn gynt nag erioed o’r blaen, ac mae disgwyl mwy o law a stormydd yn y dyfodol o ganlyniad i newid hinsawdd.

Cyfrifoldeb yr Athro Elwen Evans fydd cyhoeddi prif ganfyddiadau’r adolygiad, rhannu pryderon, gwersi, llwyddiannau ac arfer dda, yn ogystal â nodi meysydd lle mae modd gwella.

‘Heriau yn sgil newid hinsawdd’

“Mae’r llifogydd ofnadwy a welsom yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf yn ein hatgoffa o’r heriau sy’n ein hwynebu yn sgil newid hinsawdd,” meddai Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd.

“Mae tywydd difrifol fel hyn sy’n digwydd yn fwyfwy aml yn creu trawma, colledion ariannol ac yn tarfu’n helaeth ar deuluoedd a busnesau.

“Rydym wedi rhoi strategaeth llifogydd drylwyr ar waith ac yn ddiweddar cyhoeddwyd y pecyn buddsoddi mwyaf erioed i leihau’r perygl o lifogydd ledled Cymru, gyda mwy na £214m dros y tair blynedd nesaf i helpu i ddiogelu o leiaf 45,000 o gartrefi rhag perygl llifogydd.

“Mae’n hanfodol ein bod yn dysgu o ddigwyddiadau blaenorol i’n paratoi ar gyfer y dyfodol.

“Rwy’n falch iawn bod yr Athro Evans, sy’n dod â phrofiad ac awdurdod sylweddol, wedi cytuno i arwain yr adolygiad annibynnol.”

‘Effaith ddinistriol ar gymunedau a busnesau’

“Rydym wedi gweld yr effaith ddinistriol y gall llifogydd ei chael ar ein cymunedau a’n busnesau,” meddai Siân Gwenllian, yr Aelod Dynodedig.

“Ochr yn ochr â gweithredu ar newid hinsawdd a sicrhau bod Cymru’n chwarae ei rhan i fynd i’r afael ag ef, bydd mynd ati i atal llifogydd a dysgu o lifogydd dinistriol 2020-21 yn gwneud gwahaniaeth o ran diogelwch a thawelwch meddwl pobl ledled Cymru.

“Rwyf wedi bod yn gweithio’n agos i ddatblygu cwmpas a dull gweithredu’r adolygiad pwysig hwn fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio, ac rwy’n edrych ymlaen at weld y canfyddiadau.”