Dywed y Prif Weinidog Mark Drakeford nad oes ganddo fe “ddim byd i ymddiheuro amdano,” yn dilyn y cyfyngiadau Covid-19 diweddaraf.

Fe alwodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, arno i ymddiheuro wrth y genedl ar ôl ei gyfyngiadau “gor-awyddus”.

Bydd y mesurau presennol, a gafodd eu cyflwyno ar Ddydd San Steffan, yn cael eu codi’n “raddol ac yn ofalus” erbyn diwedd mis Ionawr.

Daw hyn ar ôl i dystiolaeth ddangos bod nifer achosion Covid-19 yng Nghymru yn dechrau syrthio.

Yn ei gynhadledd ddydd Gwener diwethaf (Ionawr 14), dywedodd Mark Drakeford fod cyfraddau heintio is yng Nghymru o’i gymharu â Lloegr yn brawf o effeithiolrwydd y cyfyngiadau diweddaraf.

Er hynny, mae nifer o fusnesau yn y sector lletygarwch wedi ei chael hi’n anodd yn ystod y cyfnod ers y Nadolig, gyda galwadau am fwy o gymorth ariannol ar frys.

Fe ofynnodd Andrew RT Davies i’r Prif Weinidog ehangu’r gefnogaeth ariannol sydd ar gael i’r busnesau yng Nghymru sy’n ei chael hi’n anodd, ond doedd e ddim am wneud hynny, gan ddweud bod y gronfa bresennol yn ddigon.

‘Ergyd enfawr i berchnogion busnes’

Mae Andrew RT Davies yn honni bod y Llywodraeth wedi gwneud camgymeriad wrth gyflwyno cyfyngiadau mor llym, ar ôl i’r amrywiolyn Omicron gael llai o effaith na’r hyn oedd yn cael ei ragweld.

“Bydd diffyg ymddiheuriad gan y Prif Weinidog am y difrod y mae ei gyfyngiadau gor-awyddus wedi’i achosi i gwmnïau ledled Cymru yn teimlo fel ergyd enfawr i berchnogion busnes,” meddai.

“Mae masnachwyr wedi bod yn gweiddi o’r toeon nad yw’r pecyn ariannol presennol yn ddigon ac mae’n amlwg bod angen mwy arnyn nhw.

“Ond yn ogystal â gwrthod dweud sori, mae’r Prif Weinidog hefyd yn gwrthod rhoi unrhyw gymorth ychwanegol iddyn nhw i wneud fyny am y busnes sydd wedi ei golli.

“Roedd hi hefyd yn destun siom fod y Prif Weinidog heb allu rhoi ateb llawn a gonest i’r Senedd ynghylch pa feini prawf fydd yn rhaid eu bodloni wrth i’r defnydd o basys Covid a chyfyngiadau gwrth-fusnes eraill ddod i ben yng Nghymru.

“Mae trigolion a busnesau Cymru yn haeddu atebion ac eglurder fel y gallan nhw ddechrau cynllunio am gyfnod pan fyddan nhw’n gallu masnachu a byw eu bywydau fel yr arfer eto, ond mae gweinidogion Llafur yn gadael y wlad mewn limbo.”

‘Dim byd i ymddiheuro amdano’

Yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 18), fe ymatebodd Mark Drakeford i’r alwad gan Andrew RT Davies drwy ddweud bod gan y Ceidwadwyr Cymreig lawer i ymddiheuro amdano eu hunain.

“Does gen i ddim byd i ymddiheuro amdano, Lywydd,” meddai’r Prif Weinidog.

“Mae gan y Ceidwadwyr Cymreig lawer iawn i ymddiheuro amdano wrth ystyried y ffordd y maen nhw wedi ceisio dro ar ôl tro i atal pobol a busnesau yng Nghymru rhag yr amddiffyniadau sydd eu hangen mewn pandemig byd-eang.

“Fe roddon ni fesurau ar waith a gafodd eu llunio i wneud yn siŵr bod bywydau’n cael eu hachub yng Nghymru ac y gallai busnesau barhau i fasnachu, a does dim byd i ymddiheuro amdano gan fod y mesurau hynny’n angenrheidiol ac wedi bod yn effeithiol.

“Oherwydd y cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru, gallai tafarn a gollodd £16,000 yng Nghymru adennill yr holl arian hynny o’r cymorth yr ydyn ni eisoes wedi’i roi ar y bwrdd drwy ardrethi annomestig a thrwy’r gronfa cadernid economaidd.

“Yn Lloegr, £4,000 yw’r uchafswm y byddai unrhyw fusnes o’r fath yn ei dderbyn. Ac, na, dydw i ddim yn mynd i gynnig siec wag drwy ddweud y byddwn yn mynd y tu hwnt i hynny. Mae arian cyhoeddus yn y fantol yma.

“I dafarn sy’n gallu dangos ei bod wedi colli £16,000 yng Nghymru, mae’r potensial yno iddi dderbyn hwnnw i gyd yn ôl gan Lywodraeth Cymru.

“Dydw i ddim yn meddwl y byddai’n synhwyrol nac yn gam y gellir ei gyfiawnhau i ddweud y byddai pwrs y wlad yn talu am fwy na’r colledion i unrhyw fusnes.”

Mark Drakeford yn mynnu bod y dystiolaeth yn cyfiawnhau cyfyngiadau covid Llywodraeth Cymru

“Mae’r data diweddaraf yn rhoi arwyddion positif bod y gwaethaf o bosibl wedi mynd heibio,” meddai Mark Drakeford

Disgwyl i gyfyngiadau gael eu codi’n “raddol ac yn ofalus” erbyn diwedd y mis

“Mae’n ymddangos ein bod ni wedi mynd heibio uchafbwynt Omicron, ac yn dod i lawr yn gyflym iawn,” meddai Mark Drakeford

Gemau cartref y Chwe Gwlad i’w cynnal gyda thorfeydd yng Nghaerdydd

Daw hyn wedi i Undeb Rygbi Cymru edrych ar y posibilrwydd o gynnal y gemau yn Lloegr