Mae Adam Price yn dweud mai’r cyhoeddiad diweddaraf gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar ddarlledu ac S4C yw’r “elfen ddiweddaraf mewn ymdrech i erydu sylfeini ein democratiaeth”, tra bod y Ceidwadwyr Cymreig yn dweud ei fod yn dangos “ymrwymiad” i’r sianel.
Ddoe (dydd Llun, Ionawr 17), cadarnhaodd Nadine Dorries, Ysgrifennydd Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon San Steffan, y bydd ffi drwydded y BBC yn cael ei rhewi am ddwy flynedd, sy’n gyfystyr â thoriad difrifol mewn termau real yng nghyllid y Gorfforaeth.
“Dyw’r penderfyniad hwn i ddad-ariannu’r BBC yn ddim llai nag ymdrech wleidyddol gan gefnogwyr y Prif Weinidog i gosbi darlledwr gwasanaeth cyhoeddus am wneud gwaith rhy dda wrth ddatgelu celwydd Boris Johnson,” meddai Adam Price.
“Ond mae’n rhaid gofyn a oes cyd-destun llawer dyfnach a thywyllach yma?
“O ddeddfwriaeth i leihau’r hawl i brotest heddychlon, newidiadau i ID pleidleiswyr a’r ymosodiadau ar farnwriaeth annibynnol.
“Mae sylfeini sylfaenol ein democratiaeth yn cael eu herydu mewn ymgyrch fwriadol gan y Torïaid yn San Steffan.
“Onid yr ymosodiad ar gyfryngau teg, annibynnol a chytbwys yw’r elfen ddiweddaraf?
“Mae’r frwydr dros ddyfodol darlledu mewn gwirionedd yn frwydr dros ddyfodol democratiaeth ei hun.
“Fe y mae’r dywediad yn mynd: Os nad ydych chi’n poeni, dydych chi ddim yn talu sylw.”
‘Ymrwymiad tuag at S4C’
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn ddiolchgar i Lywodraeth y Deyrnas Unedig am gyhoeddi £7.5m yn ychwanegol bob blwyddyn am y pum mlynedd nesaf i S4C.
Mae hyn gyfystyr â chynnydd o 9% yng nghyllid S4C, ar ôl pum mlynedd o rewi’r cyllid.
“Yn y dirwedd hon lle sut mae cyfryngau darlledu’n cael eu defnyddio yn newid yn gyson, mae’r ymrwymiad hwn tuag at S4C gan Lywodraeth y DU yn gymeradwyaeth glir i weledigaeth hirdymor y sianel fel darlledwr a chreadur cynnwys Cymraeg,” meddai Samuel Kurtz, Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Orllewin Caerfyrddin a De Penfro.
“Ar ôl cwrdd ag uwch dîm arweinyddiaeth S4C, rwy’n gwybod yn iawn pa mor angerddol yw eu gweledigaeth ar gyfer ein hiaith.
“Mae’r cyllid ychwanegol i gefnogi gwasanaethau digidol yn gydnabyddiaeth bod gwasanaethau ffrydio ar-lein bellach yn chwarae rhan enfawr yn ein defnydd o sioeau teledu.
“Bydd rhoi S4C i fyny yno gyda’r cewri ffrydio fel Netflix ac Amazon Prime yn dod â chynulleidfa newydd a chynyddol i gynnwys Cymraeg.”