Mae Boris Johnson wedi ymddiheuro wrth Frenhines Loegr a’r Deyrnas Unedig am y parti a gafodd ei gynnal yn Downing Street ar noswyl angladd Dug Caeredin.
Cafodd dau barti eu cynnal yn ystod cyfnod o alaru, ar adeg pan oedd Lloegr dan gyfyngiadau Covid-19 oedd yn atal aelwydydd rhag cymysgu.
Roedd Boris Johnson yn Chequers adeg y partïon fis Ebrill y llynedd.
“Dw i’n difaru’n fawr fod hynny wedi digwydd,” meddai.
Mae Downing Street eisoes wedi cadarnhau bod ymddiheuriad wedi mynd at Balas Buckingham, ond gan swyddogion roedd hynny ac nid y prif weinidog ei hun.
Daeth yr ymddiheuriad gan y prif weinidog o ysbyty yn Finchley yn Llundain, wrth iddo gydnabod “camfarnu” gan ddweud ei fod yn cymryd “cyfrifoldeb llawn”.
Y partïon
Yn ôl The Telegraph, cafodd dau barti eu cynnal gan weision sifil ar ôl iddyn nhw orffen yn y gwaith ar Ebrill 16 y llynedd.
Roedden nhw’n nodi ymadawiad James Slack, cyfarwyddwr cyfathrebu Boris Johnson, ac un o ffotograffwyr y prif weinidog.
Dau ddigwyddiad ar wahân oedden nhw, ond cawson nhw eu cyfuno’n ddiweddarach.
Roedd y sawl oedd yno’n yfed alcohol ac yn dawnsio i gerddoriaeth, a chafodd unigolyn ei ddanfon â ches i brynu gwin o’r siop.
Roedd hyn yng nghanol y cyfnod o alaru yn dilyn marwolaeth Dug Caeredin.
Y diwrnod canlynol, roedd ei wraig, Brenhines Loegr, yn eistedd ar ei phen ei hun yn ei angladd.
Mae James Slack, sydd bellach yn ddirprwy brif olygydd The Sun, wedi ymddiheuro.
‘Neb wedi rhybuddio Boris Johnson’
Dywed Boris Johnson nad oedd unrhyw un wedi ei rybuddio y byddai’r parti gardd “dewch â’ch alcohol eich hun” yn torri rheolau Covid-19.
Mae’n gwadu iddo ddweud celwydd wrth San Steffan am y digwyddiad, ar ôl i’w gyn-brif ymgynghorydd Dominic Cummings honni ei fod e wedi camarwain aelodau seneddol yn fwriadol.
Dywedodd Boris Johnson nad oedd “neb wedi dweud wrthyf fod yr hyn roedden ni’n ei wneud yn erbyn y rheolau”, a’i fod e’n credu mai “digwyddiad gwaith” oedd y parti gardd – ac na fyddai wedi cael ei gynnal pe bai’n deall ei fod yn groes i’r rheolau.
Ond fe ymddiheurodd am “gamfarnu” y sefyllfa, ac mae e bellach dan bwysau i ymddiswyddo, wrth i Lafur ei gyhuddo o dorri ei reolau ei hun.
Ac mae’n dweud nad oedd e wedi gweld yr e-bost gan ei brif ysgrifennydd preifat Martin Reynolds cyn iddi gael ei hanfon at 100 o staff.
Mae e wedi ategu’r neges fod rhaid aros tan ddiwedd ymchwiliad Sue Gray i wneud sylw am ei ddyfodol.