Gyda thridiau yn weddill o’r ymgyrch i brynu ac ailagor tafarn y Vale yn Nyffryn Aeron, mae’r Fenter yn annog pawb i’w cefnogi i gyrraedd y nod.
Hyd yn hyn, mae Menter Tafarn y Vale wedi codi £280,000, gwta 5 wythnos ers dechrau’r ymgyrch.
Dydd Sul yma (12 Rhagfyr) am hanner nos yw’r dyddiad cau ar gyfer buddsoddi, a’r targed sydd angen ei gyrraedd yw £330,000.
Mae gan y Fenter gydweithredol 400 o aelodau erbyn hyn, wrth i bobol, busnesau a mudiadau lleol ymuno ag enwogion megis Matthew Rhys a Rhys Ifans a phrynu cyfran yn y fenter.
Mae’r band Bwca wedi datgan eu cefnogaeth dros yr achos hefyd, a hynny drwy ryddhau cân newydd i godi arian at yr achos.
“Ailgydio yn ein dyfodol”
“Mae’r swm sydd wedi’i godi mewn cyfnod mor fyr yn anhygoel, ac ry’n ni’n ddiolchgar ofnadw i bawb am fod mor hael,” medd Owen Llywelyn, un o sefydlwyr y fenter.
“Mae tipyn o ffordd i fynd o hyd, felly os yw pobol am fuddsoddi er mwyn ein helpu i ailagor un o dafarndai traddodiadol cefen gwlad Ceredigion, rydym yn eich annog i brynu siârs erbyn dydd Sul yma.
“Mae’n gyfle i gydio yn ein dyfodol ni ein hunain.”
“Rwy’n hynod falch o glywed am fwriad y gymuned i brynu’r dafarn fel menter gydweithredol,” meddai.
“Rwy’n hyderus y bydd y prosiect hwn yn dod â buddion sylweddol i Ddyffryn Aeron, yn economaidd ac yn gymdeithasol.”
Mae pob cyfran yn werth £1, ond mae’n rhaid buddsoddi rhwng yr isafswm o £200 a’r uchafswm o £30,000.