Mae yna 2.5 miliwn o bobol bellach wedi ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin, yn ôl y Cenhedloedd Unedig heddiw (Mawrth 11).

Yn ôl eu hamcangyfrifon, mae tua dwy filiwn o bobol wedi’i dadleoli o fewn Wcráin hefyd.

Wrth siarad ar BBC Radio Cymru fore heddiw, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, na ddylai ffoaduriaid o Wcráin orfod cael fisas er mwyn dod i’r Deyrnas Unedig.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi derbyn beirniadaeth am beidio â chael gwared ar ofynion fisas, ac am “fiwocratiaeth” y rhaglen.

Does dim rhaid i ffoaduriaid gael fisas i gael mynediad i wledydd yr Undeb Ewropeaidd am hyd at dair blynedd, ac yn ôl Mark Drakeford mae angen gwneud hi’n haws i bobol ddod i’r Deyrnas Unedig hefyd.

Hyd yn hyn, mae tua 1,000 o ffoaduriaid wedi cyrraedd y Deyrnas Unedig o Wcráin.

“Rydyn ni eisiau croesawu pobol i Gymru sy’n wynebu be sy’n digwydd yn Wcráin a pherswadio Llywodraeth Deyrnas Unedig i wneud mwy i helpu pobol ddod yma,” meddai Mark Drakeford.

“Dydyn ni ddim yn gweld ei bod yn angenrheidiol cael system fisa. Dyw e ddim yn digwydd [yn yr] Undeb Ewropeaidd.

“Rydyn ni’n deall bod angen bod yn ofalus ond ni’n gallu bod yn ofalus ar ôl iddyn nhw gyrraedd, dim ei wneud cynt mewn cyd-destun rhyfel.”

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dadlau bod pobol eisiau iddyn nhw fod yn hael â ffoaduriaid ond bod gwiriadau manwl yn bwysig.

‘Hwyluso’r gwaith’

Ddoe, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig y bydd hi’n bosib i Wcrainiaid sydd â phasbort wneud cais ar-lein am fisas o ddydd Mawrth (Mawrth 15) ymlaen.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud y dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig symud yn gyflymach i helpu Wcrainiaid i gyrraedd y wlad, gan ddweud bod y datblygiadau gyda’r fisas ar-lein yn rhan o hynny.

Er hynny, maen nhw wedi galw ar weinidogion ym Mae Caerdydd i wneud mwy i hwyluso’r broses.

“Mae ganddyn nhw waith i’w wneud megis helpu cynghorau i baratoi i grwpiau mawr ac agored i niwed gyrraedd cymunedau, a darparu adnoddau hanfodol fel tai a gofal iechyd,” meddai Andrew RT Davies, Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

Cynlluniau newydd

Y Swyddfa Gartref yn San Steffan sydd â’r cyfrifoldeb yn y pen draw dros unrhyw gynllun swyddogol ar gyfer ffoaduriaid, ac mae unrhyw ymateb yn dibynnu ar eu gweithredoedd nhw.

Mae Boris Johnson wedi dweud y bydd yr Ysgrifennydd Codi’r Gwastad Michael Gove yn amlinellu manylion am raglen newydd ar gyfer ffoaduriaid o Wcráin ddydd Llun (Mawrth 14).

Bydd ffoaduriaid yn cael aros am gyfnod cychwynnol o ddeuddeg mis, a byddan nhw’n cael gweithio, hawlio budd-daliadau, a chael mynediad at wasanaethau cyhoeddus.

Yn ôl adroddiad yn y Telegraph, bydd gofyn i’r cyhoedd gynnig cartrefi i gannoedd ar filoedd o Wcrainiaid dan y cynlluniau.

Bydd rhaid i bobol sy’n cynnig cartrefi i ffoaduriaid gytuno i’w cartrefu am amser penodol – chwe mis o bosib – a dangos eu bod nhw’n cwrdd â gofynion penodol, meddai’r papur.

Mae elusen Cyfiawnder Tai Cymru eisoes wedi apelio ar drigolion Cymru i groesawu ffoaduriaid i’w cartrefi, a dywedodd Mark Drakeford heddiw ei fod yn derbyn llythyrau bob dydd gan bobol sydd eisiau rhoi lloches i ffoaduriaid fydd yn dod i Gymru.

Mae holl awdurdodau lleol Cymru wedi dweud eu bod nhw’n barod i dderbyn ffoaduriaid o Wcráin, a dywedodd yr Urdd yr wythnos hon eu bod nhw’n trafod sut i gefnogi ffoaduriaid o’r wlad, fel y gwnaethon nhw â ffoaduriaid o Affganistan.

Cymorth dyngarol

Hyd yn hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £4m mewn cymorth dyngarol i Wcráin, a hwnnw wedi mynd drwy Apêl DEC Wcráin.

Mae’r apêl wedi codi £7.8m mewn wythnos, ac mae’r Cenhedloedd Unedig yn amcangyfrif bod 12 miliwn o bobol – neu 30% o boblogaeth Wcráin – angen cymorth dyngarol.

Maen nhw hefyd yn amcangyfrif bod tua hanner y 2.5 miliwn o ffoaduriaid yn blant.

Dywedodd Malenie Simmonds, Cadeirydd DEC Cymru: “Rydyn ni’n gwybod bod y gwrthdaro hwn ymhell o fod ar ben a bydd ei effeithiau i’w teimlo am amser hir.

“Rydym yn benderfynol o wneud cymaint ag y gallwn i gefnogi’r rhai mewn angen, yn awr ac yn y blynyddoedd i ddod.

“Mae cefnogaeth anhygoel y cyhoedd yng Nghymru yn gwneud gwahaniaeth enfawr.

“O gasgliadau mewn boreau coffi a gwylnosau, digwyddiadau codi arian a rhoddion corfforaethol, rydym yn derbyn cefnogaeth werthfawr gan bob sector ac rydym yn hynod werthfawrogol.”

Mae Prydain ymhell ar ei hôl hi’n cynnig lloches i ffoaduriaid o Wcráin, er cywilydd

Huw Bebb

“Roedd adeg lle nad oedd angen cyfarwyddyd arnom i wneud y peth iawn”