Bydd cynrychiolwyr Ymchwiliad Covid-19 yn ymweld â threfi a dinasoedd ledled y Deyrnas Unedig dros yr wythnosau nesaf i gwrdd â phobl y mae’r pandemig wedi effeithio arnynt.
Dywedodd Cadeirydd yr ymchwiliad, y Farwnes Heather Hallett, ei bod am glywed gan bobl ar draws Prydain a fydd yn rhoi eu barn ar yr hyn y dylai ymchwilio iddo.
Daw hyn ar ôl i Swyddfa’r Cabinet gyhoeddi ei gynlluniau drafft ar gyfer yr ymchwiliad cyhoeddus ddydd Iau (10 Mawrth).
Prif bynciau’r ymchwiliad fydd archwilio’r ymateb i’r pandemig a’i effaith yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon – a llunio adroddiad o’r hyn a ddigwyddodd.
Mae hefyd yn bwriadu nodi’r gwersi y gellir eu dysgu fel y gall lywio paratoadau’r Deyrnas Unedig ar gyfer pandemig yn y dyfodol.
Mae ymgynghoriad bellach wedi agor, gyda’r cyhoedd, teuluoedd mewn profedigaeth, cyrff proffesiynol a grwpiau cymorth yn rhoi eu barn.
Mae’n cael ei gynnal o hanner nos, 11 Mawrth tan 11.59yh ar 7 Ebrill 2022.
Bydd y Farwnes Heather Hallett wedyn yn ystyried barn y cyhoedd ar y cynlluniau drafft cyn argymell newidiadau i’r Prif Weinidog.
Mewn llythyr agored i’r cyhoedd, dywedodd y Farwnes Heather Hallett: “Rwy’n gobeithio y bydd pobl ledled y Deyrnas Unedig yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus ar-lein.
“Mae’n bwysig bod yr Ymchwiliad yn adlewyrchu pryderon y cyhoedd.
“Byddaf yn gwneud popeth yn fy ngallu i gyflwyno argymhellion cyn gynted â phosibl, er mwyn sicrhau bod y dioddefaint a’r caledi y mae llawer ohonoch wedi’u profi yn cael eu lleihau neu eu hatal mewn unrhyw bandemig yn y dyfodol.”
“Rhy hwyr”
Fodd bynnag, dywedodd Fleur Anderson AS, gweinidog cabinet cysgodol Llafur, fod y blaid yn croesawu’r cynlluniau drafft, ond ychwanegodd bod yr ymchwiliad yn dod yn “llawer rhy hwyr”.
“Gyda Downing Street dan ymchwiliad yr heddlu am dorri rheolau Covid, mae’n rhaid i’r Ceidwadwyr ymrwymo i weithredu argymhellion yr ymchwiliad yn llawn pan fydd yn adrodd yn ôl os yw’r broses am gadw unrhyw onestrwydd a hygrededd,” meddai.
“Rhaid i’r ymchwiliad ddechrau cyn gynted â phosibl fel na fydd rhagor o amser yn cael ei wastraffu cyn y gallwn ddysgu gwersi o’r camgymeriadau a wnaed.”