Mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu ar frys er mwyn ymateb i’r argyfwng tai mewn ardaloedd gwledig, yn ôl Prif Weithredwr cymdeithas dai yn y gogledd.

Fe wnaeth hi’r sylwadau mewn ymateb i adroddiad gan Dr Simon Brooks, oedd yn argymell polisïau i fynd i’r afael â’r broblem ail gartrefi.

Cafodd yr adroddiad ei drafod mewn cyfarfod pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai’r Senedd yr wythnos hon, a chroesawodd Shan Lloyd Williams, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin, yr argymhellion.

Fe nododd hi fod y gymdeithas dai eisoes wedi cymryd rhan allweddol yn ymateb i ymgynghoriadau dilynol, yn ogystal â chael eu galw i arwain cynllun peilot Llywodraeth Cymru yn Nwyfor, sydd am fynd i’r afael â chartrefi gwag yn yr ardal.

Ond roedd Shan yn credu bod lle i wella a bod angen ymateb ehangach ar frys i leihau effeithiau’r argyfwng tai.

Datrysiadau

“Mae angen ychydig bach mwy o gyflymder o ran sut ydyn ni yn mynd i fod yn ymateb i’r argymhellion neu’r peryg ydi y byddan ni wedi colli’r ewyllys da sydd o fewn cymunedau,” meddai.

“Mae’r cymunedau yn barod ac yn awyddus i weithio a gweld yr argymhellion yma yn cael eu symud ymlaen a gweld ein bod ni yn datblygu datrysiadau i’r problemau.

“Ar ben eu hunain, dydi’r datrysiadau ddim yn mynd i wneud llawer o wahaniaeth, yn fy marn i, ond o’u cyfuno, er enghraifft gyda’r datganiad diweddar am yr hawl i godi treth y cyngor i fyny i 300%.

“Ac mae angen cael pethau eraill mewn lle ar yr un pryd er mwyn gwneud gwir wahaniaeth.”

Heriau i gefn gwlad

Daw Shan yn wreiddiol o Ben Llŷn, sydd wedi gweld problemau helaeth o achos yr argyfwng tai, gan gynnwys effaith niweidiol ar gymunedau a’r Gymraeg.

Am y rheswm hynny, ac i geisio gwneud y farchnad dai yn fwy teg, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £1 miliwn ar gyfer prynu ac adnewyddu cartrefi gwag yn yr ardal.

Mae hynny’n un o’r cynlluniau sydd gan Grŵp Cynefin mewn lle i geisio cefnogi pobol leol i brynu tai fforddiadwy.

Ond fe soniodd Shan am yr her o ddenu contractwyr addas i ymgymryd â gwaith mewn ardaloedd gwledig.

“Does gan y cwmnïau adeiladu o’r maint sydd angen i ddatblygu tai ddim diddordeb mewn dod i ardaloedd cefn gwlad,” meddai.

“Mae’r costau yn mynd i fod yn uwch a’u proffid yn mynd i fod yn llai.

“Mae angen cyd-weithio felly hefo contractwyr bach lleol a rhoi’r hyder iddyn nhw i fod yn tendro ac yn cyd-weithio yn well hefo’i gilydd.

“Fel sector, rydyn ni yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn barod wedi rhoi dosraniad hael tuag at adeiladu tai fforddiadwy ar draws Cymru.

“Ond dw i’n meddwl bod angen ystyried ffactor ardaloedd gwledig hefyd uwchben y fformiwla sy’n cael ei defnyddio wrth ddatblygu tai.”